Thema dywyll Thema golau

Hiliaeth – rhaid codi llais

erthygl-gorffennaf-2020-2115-1024 erthygl-gorffennaf-2020-2115-1024
Peth annifyr ydi ffraeo, a thrio osgoi gwneud hynny ydi’n greddf ni ar y cyfan, oni bai ein bod ni mewn hwyliau ffraegar neu wedi meddwi. Mae ffraeo efo teulu a ffrindiau yn waeth eto, ac mi wnawn ni frathu’n tafodau’n dwll cyn gwneud hynny, oni bai fod yna rywbeth gwirioneddol ofnadwy wedi digwydd neu’i bod hi’n Ddolig. Os ydi gwaed yn dewach na dŵr a chyfeillgarwch yn cyfri mwy na dim byd arall bron, y peth ola’ ’dan ni isio’i wneud ydi codi helynt efo’r rhai agosaf atom ni. Ond dyna mae llawer ohonom ni wedi bod yn ei wneud dros yr wythnosau diwethaf ers i’r protestiadau Black Lives Matter ddod ag agweddau annisgwyl i’r golwg mewn pobol ’dan ni’n meddwl y byd ohonyn nhw.  Rydan ni wedi treulio blynyddoedd yn hel esgusodion dros fod yn gachwrs di-asgwrn-cefn pan ’dan ni’n gweld neu glywed pethau hiliol o’n cwmpas, ond diolch byth, mae mwy a mwy o herio hiliaeth yn digwydd bellach.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-gorffennaf-2020-2114-1023

Gwagio Epynt

Ymlaen >
erthygl-gorffennaf-2020-2117-1025

Beethoven i’r byd o Bentrebychan