Thema dywyll Thema golau

Huw Antur1963‑2026

Huw Antur 1963-2026

Cyn‑Bennaeth Gwersyll yr Urdd Glan‑llyn a chymwynaswr bro.

Ym marwolaeth Huw Antur (‘Huw A’ i’w gydnabod) collodd Llanuwchllyn a Phenllyn un oedd â gweledigaeth unplyg ynghylch eu dyfodol. Fel aelod o Feibion Llywarch (parti gwerin tra llwyddiannus yn ei ddydd) ac o’r Tri Gog a Hwntw, coleddai Huw ddiwylliant ei fro ar ei fwyaf traddodiadol. Ond roedd ei weledigaeth ynghylch ei dyfodol yn un eang a gwmpasai agweddau economaidd, diwylliannol a pholisi cyhoeddus ym maes datblygu cymunedol. Yn greiddiol i’r cwbl roedd ei gred y dylai cymunedau gymryd rheolaeth o’u tynged eu hunain. Drwy sefydliadau a dynnai ynghyd fyd busnes a’r sectorau gwirfoddol a chyhoeddus, roedd ei ddull gweithredu yn syml: gosod nodau y gellid eu cyflawni ac osgoi’r anghyraeddadwy.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Trefor Jones‑Morris 1953‑2026

Ymlaen >

Ymarfer Byw (I’r Byw)