Thema dywyll Thema golau

Hybu defnydd yw’r nod – holi’r Comisiynydd

Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg
Roedd sawl her yn wynebu Efa Gruffudd Jones pan gychwynnodd ar ei swydd fel Comisiynydd y Gymraeg ddechrau’r flwyddyn. I ddechrau, roedd ganddi fwlch mawr i’w lenwi ar ôl ei rhagflaenydd poblogaidd ac uchel ei barch, y diweddar Aled Roberts. Roedd ei farwolaeth flwyddyn ynghynt, wedi llai na thair blynedd yn y swydd, pan oedd ganddo gymaint mwy i’w gyfrannu, yn golled fawr i Gymru. Roedd hi hefyd yn cychwyn ar ei swydd lai na mis ar ôl cyhoeddi canlyniadau cychwynnol Cyfrifiad 2021 ar y Gymraeg. Ar adeg pan fo Llywodraeth Cymru’n arddel uchelgais o gynyddu’r nifer sy’n gallu siarad Cymraeg i filiwn erbyn 2050, gostwng a wnaeth y cyfanswm am yr ail gyfrifiad yn olynol. Yn ogystal â chadarnhau dirywiad pellach yn llawer o gadarnleoedd y Gymraeg, dangosodd hefyd leihad yn y niferoedd a’r canrannau o blant sy’n gallu siarad Cymraeg yn y de-ddwyrain.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
Tanau ar strydoedd dinas Dulyn

Terfysg hiliol Dulyn yn codi braw

Ymlaen >
Portmeirion dan eira

Cinio Nadolig – bwyta allan