Hanes a daearyddiaeth, golygfeydd a mapiau, grym chwedlau, diflaniad a goroesiad diwylliannau ac ieithoedd... mae’r cyfan yn bwydo prosiect diweddaraf y canwr Gruff Rhys. Bu’n sôn wrth Barn am wreiddiau a datblygiad y gwaith a’i harweiniodd ar daith i America.
Mae pedair rhan i brosiect American Interior – ffilm, ap, llyfr ac albwm. Tybed pa fath o stori a allai fod wedi sbarduno cymaint o ddeunydd creadigol?
Ar noson heulog braf mae Gruff Rhys yn agor y drws ei dy yng Nglan yr Afon, Caerdydd, led y pen ac yn gwenu gwên lydan sy’n llenwi ei farf ddu. Cyn pen dim mae’n pwyso’n ôl yn ei gadair, ei lygaid ynghau, ac yn dechrau siarad am ei berthynas pell o’r gorffennol, dyn o’r enw John Evans, Cymro a aeth i America ar ddiwedd y 18g. gydag un nod a phwrpas.
Dyma’r stori, y stori sydd wedi swyno’r cerddor ers blynyddoedd maith, y stori sydd wedi ei gymell i deithio ar draws gogledd America gyda sioe sleidiau, ffigwr ffelt dwy droedfedd o daldra (ymgnawdoliad o John Evans, gan nad oes unrhyw lun ohono ar gof a chadw) a gitâr. Dyma’r stori sydd wedi arwain at brosiect American Interior.
‘Ro’n i a Dylan (Goch) wedi bod yn sôn am John Evans ers tipyn a, tua pum mlynedd yn ôl mae’n siwr, ddaeth Dyl ar draws rhaglen archif yn y BBC roedd Wil Aaron wedi’i gwneud i gyd-fynd ag un o lyfrau Gwyn Alf Williams am Madog. Roedd gen i dipyn o obsesiwn efo stwff Wil Aaron ar y pryd, a ’nath hwnna ’nghyffroi i,’ esbonia Gruff, wrth i mi ei holi am ddechreuadau’r daith a’r prosiect. ‘Ond stori John Evans o’n i isio mynd ar ei hôl, doedd gen i ddim diddordeb yn Madog.’
Yn 1792 roedd John Evans, gwas fferm a Methodist dwy ar hugain oed o Waunfawr, yn camu dros riniog ei gartref am y tro olaf ac yn cychwyn ar antur ryfeddol yn llawn gobaith o fedru ennill bet a wnaeth, fe honnir, gyda neb llai na Iolo Morganwg. Roedd yn canu’n iach i Gymru er mwyn ceisio darganfod unwaith ac am byth a oedd chwedl y Tywysog Madog yn wir. A oedd llwyth cyntefig o ddisgynyddion Madog yn dal i fyw ar gyfandir dieithr America ac yn medru’r Gymraeg? Ai cig a gwaed ynteu creadigaeth ddychmygol oedd y Madogwys?
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
