Bechod nad enillasai Cardiff City Gwpan Carling ddiwedd Chwefror. Ydw, am y tro cyntaf yn fy mywyd yr wyf yn barod i gydymdeimlo â’r Adar Gleision, er nas gwelais yn chwarae ar eu tomen eu hunain er tymor 1968–9, pan euthum i Barc Ninian un noson waith a’u gweld yn curo Bethesda Athletic 6–0 yng Nghwpan Cymru. Cydymdeimlaf â nhw yn rhannol am fod rhai o’m cyfeillion sy’n gefnogwyr triw iddynt bellach yn gweld yn dda i ganmol steil a champ fy nhîm i, ac yn rhannol am fod yn rhaid cydnabod y gwaith rhagorol a wnaeth Malky Mackay fel rheolwr arnynt.
Yn ystod Sul olaf Chwefror yr oedden nhw yn stadiwm bwaog hardd Wembley, lle daethant o fewn trwch carrai i guro Lerpwl. Ac ym mha le gogoneddus yr oeddwn i a dau nai imi, Derfel a Colin, Sadwrn cyntaf Mawrth? Mewn stadiwm cyffredin ond cartrefol ar wastatir Wigan. Yr oedd dros ddeng mil ar hugain o gefnogwyr Caerdydd yn Wembley. Tair mil o Jacks, ar y mwyaf, oedd yn y DW. Ond pa dorf oedd grochaf a pha dorf oedd fwyaf llawen? Ni raid ateb. Gwell gwastatir llwm Wigan fel enillwyr na gwastadedd glas Wembley fel colledigion.
Y gwir yw na all neb help bwy a gefnoga. Manchester City oedd tîm Gwyn Erfyl, ac Aston Villa oedd tîm John Roberts Llanfwrog. Cefnogi West Bromwich Albion y mae Arwel Hogia’r Wyddfa, Nottingham Forest yw tîm fy nghyfaill Geraint R. Jones, canlyn Tottenham Hotspur y mae Archifydd Coleg y Gogledd, Einion W. Thomas, ac, fel cant a mil o bobl eraill, crochlefain dros Manchester United y mae Llywydd Anrhydeddus Plaid Cymru. Yn y mater afresymegol hwn, naw wfft i Gymreictod ac i annibyniaeth!
Ond pam mynd i Wigan i weld y Swans? Am fy mod yn methu â chael tocynnau i fynd i’w gweld gartref. Am fod trefi Sir Gaerhirfryn o fewn cyrraedd rhesymol i Sir Fôn. Am fod gennyf le cynnes yn fy nghalon i Roberto Martinez, rheolwr Wigan Athletic, a adferodd rhwng 2007 a 2009 hen arddull Allchurchaidd y Swans o chwarae pêl-droed (ni hoffais o gwbl glywed rhai o’m cydgefnogwyr yn gweiddi ‘Jiwdas’ arno). Ac, yn olaf, am fy mod wedi dychmygu y gallwn ddod o hyd i un o ddisgynyddion Mr Strangle yno.
Y mae i Wigan le yn llenyddiaeth orau’r Gymraeg. A gofiwch chi Bennod XVI o’r nofel Rhys Lewis gan Ddaniel Owen? – lle mae glowyr y Caeau Cochion yn codi mewn gwrthdystiad yn erbyn y rheolwr newydd o Sais a benodwyd yn lle Abraham Jones? Yno y mae Bob Lewis, er yn daer am gyfiawnder i’r gweithwyr, yn dadlau y dylai’r dynion ymddwyn tuag at eu gelyn diwydiannol yn y fath fodd ag i beidio â thynnu gwarth arnyn nhw eu hunain. Yn ofer y dadleua, achos er iddo ef geisio’i arbed, y mae’r ‘dorf wallgofus’ yn gyrru’r rheolwr newydd o’u blaen ‘gyda chyflymdra cwbl anhyfryd’ tua’r orsaf, ac yn ei roi ar drên, gan ei alltudio i’w henfro.
A sut un yw’r henfro honno? Ni ddywed Daniel Owen. Ond fe ddywed mai gwr canol oed byr, boldew a thrystiog oedd Mr Strangle, a gariai yn ei berson ‘holl erwindeb, afledneisrwydd, ac anwybodaeth ei wehelyth yn Wigan’. Ni welais ddisgynnydd iddo y tro hwn. Ond mwynheais fy hun gymaint yno fel y gobeithiaf y bydd Martinez a’i dîm yn y Brif Adran y flwyddyn nesaf eto, fel y gallwyf fynd i Wigan drachefn i chwilio amdano.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru

