Thema dywyll Thema golau
Rhwng hiraeth a gobaith – gwaith tri o Wcráin
Iasol ac oesol – adolygiad o ‘Un Nos Ola Leuad’ Bara Caws
Diwedd y daith i Truss

Iasol ac oesol – adolygiad o ‘Un Nos Ola Leuad’ Bara Caws

Cast 'Un Nos Ola Leuad' Cast 'Un Nos Ola Leuad'
Wrth fynd i mewn i Neuadd Ogwen, Bethesda i weld perfformiad agoriadol Theatr Bara Caws o’r ddrama a seiliwyd ar un o nofelau mwyaf yr iaith Gymraeg, roedd rhyw awyrgylch arallfydol bron yn treiddio drwy’r awditoriwm. Mae’r ddrama, a addaswyd gan Betsan Llwyd o sgript o waith John Ogwen a Maureen Rhys, yn glynu’n bur agos at brif themâu’r nofel. Mae’r niwl sy’n treiddio drwy’r neuadd wrth i chi fynd i mewn yn creu ias ac ymdeimlad o ddirgelwch, gan gonsurio byd lle gallech yn hawdd weld ysbrydion. Ac mae’r lleuad lawn uwchben copaon y mynyddoedd ar gefn y set yn ychwanegu at hynny. Mae’r set ei hun yn llwyddo i gynrychioli’r math o dirwedd mae’r cymeriadau yn byw ynddo. Ceir rampiau a grisiau i gynrychioli llethrau a dringfeydd, a hefyd bonciau’r chwarel. Mae’r ‘hogia’ yn neidio, rhedeg a phrancio hyd y llwyfan gan chwarae gemau a rhoi rhwydd hynt i ddychymyg plentyn wrth sylwi a rhyfeddu at wahanol bobl neu bethau.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
Oleksandra Davydenko, Roman Nedopaka ac Alla Chakir yn Oriel Plas Glyn-y-Weddw

Rhwng hiraeth a gobaith – gwaith tri o Wcráin

Ymlaen >
Liz Truss ar Stryd Downing

Diwedd y daith i Truss