Thema dywyll Thema golau

Iddewon yn y dychymyg Cymreig

Siop Wartski, Bangor

Newydd ei gyhoeddi y mae llyfr Saesneg sy’n trafod agweddau’r Cymry at yr Iddewon ar hyd y canrifoedd. Yma mae un o’n prif feirniaid cymdeithasol yn trafod ei arwyddocâd.

O’r braidd y bu lleiafrif pwysicach yn y dychymyg Cymreig na’r Iddewon ac ar un olwg mae hynny’n od oherwydd, fel y dadleua Nathan Abrams mewn llyfr newydd, Jews in the Welsh Imagination, cymharol ychydig o Iddewon fu’n trigo yng Nghymru. Ond weithiau mae absenoldeb lleiafrif, yn enwedig pan fo’r lleiafrif hwnnw’n greiddiol i hanes y gorllewin mewn rhyw fodd, yn rhoi mwy o raff i greu dychmygion, a hynny am yr union reswm nad yw’r lleiafrif i’w weld yn y gymdeithas leol. Yng Nghymru, nid Iddewon yn unig a ddychmygid yn eu habsenoldeb, ond sawl grŵp arall, gan gynnwys Mwslemiaid. Gwlad ar gwr Ewrop yw Cymru, wedi’r cwbl; bu’n wyn ac yn Gristnogol am y rhan fwyaf o’i hanes, ac mae ei rhagfarnau’n adlewyrchu hynny.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Yr edefyn aur

Ymlaen >

Kinahan, cyffuriau ac Iran