Artist a oedd yn feistr ar dorri llythrennau ar garreg a chaligraffi. Mae ei waith i’w weld ledled Cymru a thu hwnt, a bu hefyd yn athro ysbrydoledig.
Un o Gwm Gwendraeth oedd Ieuan Rees, wedi’i eni ym Mhontyberem a’i fagu yn y Tymbl. Yn ei blentyndod daeth dan ddylanwad ewythr iddo, sef Hywel Harries, a oedd yn arlunydd (bydd rhai hefyd yn cofio’i ddigrifluniau yn Blodau’r Ffair, y Cambrian News a’r Faner). Aeth Ieuan i Goleg Celf Caerfyrddin ac yna i’r Coleg Celf Brenhinol yn Llundain. Yn y 1960au dysgodd ei grefft fel cerfiwr llythrennau a chaligraffydd yng Ngholeg Celf Camberwell, Llundain, cyn dychwelyd i Gymru yn y 1970au. Bu’n dysgu yng ngholegau celf Caerfyrddin, Dyfed ac Abertawe cyn gadael addysg i ganolbwyntio ar waith comisiwn fel cynllunydd a chrefftwr llawrydd. Rhwng 1977 ac 1979 ef oedd cadeirydd Cymdeithas yr Ysgrifellwyr a’r Goliwiadwyr (The Society of Scribes and Illuminators). Yn gymharol ddiweddar, er mawr syndod iddo ef ei hun, daeth i fri ar draws y byd pan gafodd ffilmiau byrion ohono wrth ei waith a wnaeth yn 2012 eu gwylio gan filoedd o bobl ar YouTube.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
-

Tanysgrifiad – Digidol yn Unig
Dewiswch yr opsiwn hwn i gael mynediad at fersiynau llawn yr erthyglau ar ein gwefan, a rhifynnau blaenorol yn eu ffurf ddigidol. Byddwch yn gallu darllen popeth sydd ar ein gwefan tra mae eich tanysgrifiad yn weithredol.£35.00 / blwyddyn
Rhoi yn y fasged
-

Tanysgrifiad – Print a Digidol
Dewiswch yr opsiwn hwn i gael mynediad at holl gynnwys gwefan BARN. Byddwch hefyd yn derbyn rhifyn newydd drwy’r post yn fisol tra mae eich tanysgrifiad yn weithredol.£50.00 / blwyddyn
Rhoi yn y fasged
Mewngofnodi
Cofrestru