Thema dywyll Thema golau

India – 75 mlynedd o annibyniaeth

Tudalen flaen The Hindustan Times, 15 Awst 1947 Tudalen flaen The Hindustan Times, 15 Awst 1947
I’r Indiaid, mae cael dathlu 75 mlynedd o annibyniaeth a democratiaeth yn destun balchder. Ond beth tybed fydd hynt y Weriniaeth am y tri chwarter canrif nesaf? Fe wnaeth Prif Weinidog cyntaf India annibynnol, Nehru, fugeilio’r wlad yn ofalus trwy ei blynyddoedd cynnar a chreu’r sefydliadau gwydn sydd wedi galluogi trosglwyddo grym yn heddychlon o etholiad i etholiad. Fodd bynnag, etifeddodd India gan Brydain y system etholiadol wallus ‘Cyntaf i’r Felin’ sy’n caniatáu llywodraeth fwyafrifol gyda lleiafrif o’r bleidlais, gan ei chadw. Mae plaid y Prif Weinidog presennol, Narendra Modi, wedi elwa’n ddeheuig ar hyn gan hybu ideoleg wleidyddol Hindutva a llwyddo i ennill un mwyafrif seneddol ar ôl y llall ar lai na 40% o’r bleidlais. Roedd sylfaenwyr yr India annibynnol yn sylweddoli bod undod ac amrywiaeth ill dau yn bethau peryglus o fynd â nhw i eithafion, a bu’r ddemocratiaeth yn ofalus i gydbwyso undod cenedlaethol gyda rhaglen gref o ddatganoli sydd wedi galluogi amrywiaeth ieithyddol, diwylliannol a chrefyddol y wlad i ffynnu. Dylai llywodraeth Modi geisio deall y cydbwysedd hwn...

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
Adeilad Senedd Cymru hefo Jac yr Undeb wedi ei osod drosto

‘No more devolve and forget’ – slogan i gladdu gwladwriaeth?

Ymlaen >
Cofeb Daniel Owen yn nhref Yr Wyddgrug

‘True to Nature’