Ym Mhrydain, mae pobl braidd yn ddilornus o gystadleuaeth yr Eurovision. Ond ymhlith y Gwyddelod, mae llawer mwy o fri ar y sioe gerddorol hon a llawer mwy o arwyddocâd diwylliannol iddi yn hanes diweddar yr Ynys Werdd.
Byth ers i Dana, y ferch ddeunaw oed o Derry, ennill yn 1970 gydag ‘All Kinds of Everything’, gan guro’r ferch ddeunaw oed o Gymru Mary Hopkin, a ddaeth yn ail gyda ‘Knock Knock’, mae Iwerddon wedi gwirioni ar gystadleuaeth yr Eurovision. Mae’n wir dweud bod gan Iwerddon ryw berthynas arbennig gyda’r sioe. Mae hi wedi bod yn fwy poblogaidd yma nag ym Mhrydain erioed, efallai am fod Iwerddon wedi cael cymaint o lwyddiant dros y blynyddoedd. Efallai hefyd fod Iwerddon yn ymhyfrydu yn y ffaith fod yr Eurovision yn un o’r ychydig ornestau rhyngwladol lle mae hi wastad yn siŵr o guro’r Royaume Uni yn rhacs – neu o leiaf dyna sut mae pethau’n ymddangos.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
-

Tanysgrifiad – Digidol yn Unig
Dewiswch yr opsiwn hwn i gael mynediad at fersiynau llawn yr erthyglau ar ein gwefan, a rhifynnau blaenorol yn eu ffurf ddigidol. Byddwch yn gallu darllen popeth sydd ar ein gwefan tra mae eich tanysgrifiad yn weithredol.£35.00 / blwyddyn
Rhoi yn y fasged
-

Tanysgrifiad – Print a Digidol
Dewiswch yr opsiwn hwn i gael mynediad at holl gynnwys gwefan BARN. Byddwch hefyd yn derbyn rhifyn newydd drwy’r post yn fisol tra mae eich tanysgrifiad yn weithredol.£50.00 / blwyddyn
Rhoi yn y fasged
Mewngofnodi
Cofrestru
