Thema dywyll Thema golau

Isetholiad Ynys Môn

Daeth ymgyrch Plaid Cymru yn ei chrynswth i ymdebygu fwyfwy i garnifal, cymaint oedd yr ymdeimlad o hwyl ac asbri ymhlith cefnogwyr Rhun ap Iorwerth. Mae’n wir fod newyddiadurwyr a sylwebyddion yn or-hoff o ddefnyddio ansoddeiriau gorchestol megis ‘hanesyddol’, ‘ysgubol’ neu ‘syfrdanol’, ond does dim dwywaith fod yr hyn a ddaeth i fwcl am un o’r gloch y bore ar Awst yr ail 2013 yn y ganolfan gyfrif yn Llangefni yn llawn haeddu pob un o’r ansoddeiriau uchod.

Prin fod angen cyfrif pleidleisiau Plaid Cymru: byddai wedi bod yn haws eu pwyso nhw.

Roedd y patrwm pleidleisio, wrth reswm, yn amrywio o ward i ward. Mewn un ward yng Nghaergybi, er enghraifft, dim ond 22.79% ddaru fwrw pleidlais, ond yn un o wardiau Llangefni ymwelodd bron i 50% o’r etholwyr â’r orsaf bleidleisio. Y cyfartaledd drwy’r ynys oedd 42.5%

Mae patrwm pleidleisio’r isetholiad yn ddiddorol ac yn arwyddocaol. Roedd y gwynt yn hwyliau Plaid Cymru yn dilyn eu llwyddiant yn etholiadau’r Cyngor Sir ym mis Mai eleni. Creodd hynny fomentwm ac fe fanteisiodd y Blaid i’r eithaf ar hynny. Ystyrier hefyd y ffaith fod Llafur yn yr isetholiad wedi colli mwy hyd yn oed o dir yn eu cadarnle ar Ynys Cybi nag a wnaethon nhw gwta dri mis ynghynt. Ofer, mae arnaf ofn, yw i strategwyr Llafur geisio cysuro eu hunain drwy ddweud: ‘Trydydd oeddem ni’r tro diwethaf yn etholiadau’r Cynulliad ym Môn. Roeddem ni’n ail y tro yma.’ Do, fe ddaethon nhw’n ail. Ond fe gawson nhw ail hefyd! Dyna’r gwir. Gwelwyd bod UKIP wedi denu pleidleisiau oddi wrth Lafur yn ogystal â’r Ceidwadwyr. Mae hynny’n rhybudd clir cyn etholiadau Senedd Ewrop y flwyddyn nesaf.

Amlygodd yr isetholiad hefyd wirionedd yr hen gred bod dau fath o wleidydd: y crefftwr a’r bardd. Crefftwr oedd Ieuan Wyn Jones. Tanlinellodd hynny yn y modd y saernïodd ei ymadawiad ac y sicrhaodd ei olyniaeth. (Gan aros cyn cyhoeddi ei ymadawiad, wrth gwrs, iddo gael ei benodi’n gyntaf i swydd newydd ddeniadol.) Strategydd, technegydd ac operator go iawn, dyna IWJ.

Yr hyn fu’n brin o fewn rhengoedd gwleidyddion Plaid Cymru oedd beirdd – er bod ganddi, wrth reswm, ddigonedd o’r rheini ymhlith ei haelodaeth. Ond bu’n brin o wleidyddion a allai ennyn cyffro a brwdfrydedd. Mae Rhun ap Iorwerth eisoes wedi dangos gyda’i berfformiad yn yr isetholiad ei fod o’n gallu barddoni a llefaru. Y gamp iddo rwan fydd dangos nad perfformio yw ei unig ddawn ac y gall fod yr un mor fedrus fel crefftwr.

Pa effaith, tybed, a gaiff llwyddiant Plaid Cymru yn yr isetholiad ar ddeinameg grym oddi mewn i Gyngor Sir Ynys Môn? Plaid Cymru ydi’r blaid wleidyddol fwyaf ar y cyngor o ddigon. Ond Annibynwyr wedi clymbleidio gyda Llafur sy’n llywodraethu.

Sut mae bagad o unigolion Annibynnol, dan arweinydd cwbl ddibrofiad, yn gallu hawlio eu bod nhw’n grwp? Dwi wedi darogan ers sefydlu’r glymblaid rhwng Llafur a’r ‘Grwp Annibynnol’ na all trefniant o’r fath barhau.

Does gen i ddim amheuaeth o gwbl y bydd llwyddiant Rhun ap Iorwerth yn atgyfnerthu penderfyniad Bob Parry, arweinydd cynghorwyr Plaid Cymru ar Gyngor Môn, i ddwyn perswâd ar ddau neu dri o annibynwyr i newid ochr, un ai’n ffurfiol neu drwy ddealltwriaeth.

A dychwelyd at yr isetholiad, rhaid crybwyll yr ymgeisydd Llafur ar yr ynys. Cafodd Tal Michael ei eni i un o deuluoedd bonedd Llafur Newydd. Yn fab i Alun Michael, gyda’r ffyddlonaf o weision Tony Blair, dewiswyd Tal fel ymgeisydd ym Môn, er bod ganddo’r enw o fod yn gollwr. Collodd i ymgeisydd Annibynnol yn etholiad Comisiynydd yr Heddlu. A methodd gael ei ddewis fel ymgeisydd seneddol yn Arfon. Dewiswyd collwr arall, y cyn-weinidog Alun Pugh, yn ei le. Mae colli i gollwr arall yn waeth rhywsut!

Ond cafodd Tal Michael y wobr gysur – os cysur hefyd – o gael ei ddewis fel ymgeisydd Llafur yn isetholiad Môn. Sir Fôn oedd yr etholaeth wledig gyntaf ym Mhrydain i ethol aelod seneddol Llafur. Y milwr Owen Thomas oedd hwnnw yn 1918, a daliodd ei afael yn y sedd yn etholiad 1921.

Mae canlyniad Môn yn Awst 2013 yn neges ddiamwys i strategwyr y Blaid Lafur. Os yw Llafur am wneud unrhyw farc yn y Gymru wledig, yna mae’n rhaid iddi newid yn arw. Mae yna ddiogi o ran ffurfio polisi, a methiant i gynnig unrhyw beth heriol i etholwyr ifanc. Damniol hefyd yw ei hamharodrwydd i ofyn cwestiynau poenus, heb sôn am gynnig atebion.

Mae yna ddiffyg sêl ymhlith ei haelodau wrth iddi ymgyrchu. Mae’n dioddef o ddiffyg ymgeiswyr credadwy. Gellir ychwanegu at hynny ddiffyg brwdfrydedd a diffyg cyfeiriad. Mae angen i Lafur fod yn fwy beiddgar. Nid fod Llafur yn wrth-Gymreig – ddim ers dyddiau George Thomas. Ond mae hi wedi cael ei phortreadu, ac wedi caniatáu iddi gael ei gweld, fel plaid sy’n ddi-hid o Gymreictod.

Y cwestiwn hanfodol na fedrodd Tal Michael ei ateb oedd hwn: Beth yw pwrpas Llafur fel plaid wleidyddol? A pham y dylai pobol bleidleisio drosti? Wrth ddweud hynny, dwi’n cydnabod ei bod yn haws gofyn y cwestiwn na chynnig ateb iddo.

A throi at y Ceidwadwyr, mae’n rhan o fytholeg wleidyddol y Gymru Gymraeg fod Ceidwadaeth yn estron i’n traddodiad gwleidyddol. Ond drylliwyd y fytholeg honno’n llwyr ym Môn pan etholwyd Keith Best, Tori 29 oed o Brighton, yn aelod seneddol yr ynys yn etholiad cyffredinol 1979 – yr etholiad a sgubodd Margaret Thatcher i 10 Stryd Downing am y tro cyntaf.

Ond mae’r myth mai plaid estron yw’r Ceidwadwyr yn dal i gael ei bwydo gan bobol a ddylai wybod yn well. Wrth gwrs, mae gan fytholeg ran bwysig i’w chwarae mewn gwleidyddiaeth, ond mae yna eironi rhyfeddol yn y ffaith fod Ceidwadwyr Môn wedi dewis offeiriad Anglicanaidd fel eu hymgeisydd yn is-etholiad 2013. A bod y Parch Neil Fairlamb yn rheithor plwyf Biwmares o bobman! Os oedd modd swcro myth ‘Y Blaid Estron’, dyma’r ffordd o wneud hynny.

Wrth groesawu diwygio llywodraeth leol yn 1894, dywedodd un o Ryddfrydwyr amlwg y sir: ‘The people have made their minds up to supercede the parson… as the sole arbiter of parish affairs’. Offeiriaid y plwyf, ynghyd â’r Sgweier a phenteulu’r bendefigaeth leol, oedd asgwrn cefn yr hen Dorïaeth.

Dyma eironi arall: hyd at gychwyn y 19g., roedd Biwmares yn Fwrdeistref gyda’r hawl i anfon aelod seneddol i San Steffan. Pendefigion Biwmares oedd teulu’r Bulkeleys o Blas Baron Hill. Mae’n gwbl briodol felly fod Neil Fairlamb wedi ysgrifennu cyfrol (molawd, bron) yn croniclo hanes teulu Baron Hill.

Byddai Neil Fairlamb wedi bod yn ymgeisydd Torïaidd perffaith pe byddai wedi sefyll etholiad yn y 18g. Fel yn achos Llafur, roedd dewis y Ceidwadwyr yn pwysleisio pa mor brin ydi’r ‘prif bleidiau’ o ymgeiswyr credadwy. Mae yna hen ymadrodd: os mul rowch chi, mul gewch chi. Mae hynny yn ei dro yn cynyddu difaterwch yr etholwyr tuag at y pleidiau a thuag at wleidyddiaeth drwyddo draw. Pleidiau’r ymylon sy’n elwa o hynny. A dyna ddod â ni at UKIP.

Trydydd ddaeth UKIP ar y noson yn Ynys Môn er gwaethaf sibrydion yn ystod y cyfrif y byddai’n rhaid ailgyfri’r pleidleisiau gan fod Llafur ac UKIP mor agos.

Y traddodiad mewn isetholiadau ym Mhrydain yw mai’r Democratiaid Rhyddfrydol sy’n elwa. Nid y tro hwn. Gellid dadlau mai pleidlais negyddol yn erbyn Llafur a’r Ceidwadwyr oedd pleidlais UKIP yn hytrach na phleidlais bositif o blaid eu polisïau nhw. Ond mae hynny’n gwbl academaidd ac yn colli’r pwynt gwleidyddol yn llwyr. Y pwynt yw bod UKIP bellach yn gystadleuydd credadwy.

Rhaid gofyn, serch hynny, ai tân siafins oedd pleidlais UKIP? Yn fwy diddorol fyth, a fydd Plaid Cymru ar eu hennill yn Etholiad Cyffredinol 2015 wrth i UKIP gipio pleidleisiau oddi wrth y pleidiau eraill? Beth oedd yn mynd drwy feddwl Albert Owen, Aelod Seneddol Llafur Ynys Môn, drannoeth y canlyniad, ysgwn i? Hoffwn wybod ydi Albert, yn y munudau rhwng rhoi ei ben ar y gobennydd a mynd i gysgu, yn synfyfyrio dros benderfyniad Cledwyn Hughes yn 1979 i ymddeol o San Steffan ar ôl 28 mlynedd fel Aelod Llafur Môn. A oedd Cledwyn wedi sylweddoli fod y gwynt gwleidyddol wedi newid cyfeiriad?


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Dwi’n dal i fod – mewn – band roc a rôl

Ymlaen >

“ Seren y Dwyrain” – papur bro Cairo a’r Dwyrain Canol