Stori fawr mis Awst yn Iwerddon oedd dychweliad arweinydd un o gangiau troseddol mwya pwerus y byd i’r Ynys Werdd. Hir fu’r aros amdano gan yr awdurdodau a mawr oedd diddordeb y cyhoedd yn y bennod ddiweddaraf hon yn ei hanes.
Awyren swyddogol y llywodraeth yn cyrraedd maes awyr milwrol Dulyn o Dubai; gosgordd arfog; cerbyd wedi ei gynllunio i wrthsefyll bomiau a bwledi… Roedd ymddangosiad Daniel Kinahan gerbron y Llys Troseddol Arbennig yn Nulyn ddechrau mis Awst, ar gyhuddiad o arwain gweithgareddau grŵp troseddol, yn ddramatig. Roedd hefyd yn benllanw ymgyrch ryngwladol a barhaodd am flynyddoedd. Yn ôl heddluoedd Iwerddon, Sbaen a’r Unol Daleithiau, fo ydi arweinydd un o grwpiau delio cyffuriau mwya pwerus a pheryglus y byd, sy’n gyfrifol am fewnforio cocên gwerth miliynau o bunnau, yn ogystal â chyffuriau eraill ac arfau.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
-

Tanysgrifiad – Digidol yn Unig
Dewiswch yr opsiwn hwn i gael mynediad at fersiynau llawn yr erthyglau ar ein gwefan, a rhifynnau blaenorol yn eu ffurf ddigidol. Byddwch yn gallu darllen popeth sydd ar ein gwefan tra mae eich tanysgrifiad yn weithredol.£35.00 / blwyddyn
Rhoi yn y fasged
-

Tanysgrifiad – Print a Digidol
Dewiswch yr opsiwn hwn i gael mynediad at holl gynnwys gwefan BARN. Byddwch hefyd yn derbyn rhifyn newydd drwy’r post yn fisol tra mae eich tanysgrifiad yn weithredol.£50.00 / blwyddyn
Rhoi yn y fasged
Mewngofnodi
Cofrestru
