Thema dywyll Thema golau

Les Morrison (1956–2011)

Cefais alwad ffôn annisgwyl ar fore Gwener, 29 Ebrill, yn rhoi gwybod imi fod Les Morrison wedi marw yn gynharach y bore hwnnw. Roedd yn 55 oed.

Yn 1988 yr es i efo fy ngrwp i recordio yn stiwdio Les am y tro cyntaf, ond roeddwn i’n ei nabod o cyn hynny. Dw’i ddim yn cofio sut yn union, ond dw’i’n meddwl mai trwy Hefin Huws, canwr Maffia Mr Huws a drymiwr fy Nhriawd i ar y pryd, y dois i’w nabod o.

Roedd Les yn gymeriad canolog ymhlith cerddorion niferus sîn roc Pesda, sîn a daniwyd ac a ddaeth i amlygrwydd cenedlaethol pan ddaeth Maffia Mr Huws i fri yn yr 80egau cynnar. Dyna’r cyfnod pan oedd Les yn perfformio efo hogiau Maffia yn y bandiau lleol Offspring a Cut the Mustard, gan greu tipyn o gynnwrf ar y sîn leol. Bu’n chwarae bas yn y band Mwg hefyd, yn ogystal â chwarae mewn nifer o fandiau lleol eraill o dro i dro. Cyhoeddwyd record sengl ddifyr iawn gan Offspring – record y parhaodd Les yn falch iawn ohoni, ac a chwaraewyd ar raglen John Peel.

Yn y cyfnod byrlymus hwnnw dw’i’n cofio mynd draw i’r Bwthyn, Pant, Bethesda lle’r oedd Maffia’n byw a bod ac yn ymarfer am oriau di-ri’, a lle’r oedd Les wedi gosod offer recordio. Lle blêr, gwyllt a hwyliog oedd Y Bwthyn. Wedyn sefydlodd Les ei stiwdio bach 8 trac yn yr adeilad lle mae Caffi Fitzpatrick erbyn hyn, gyferbyn â siop Spar ar y brif stryd. Ac i fanno y byddai llawer o gerddorion y fro’n mynd a chael eu profiad cyntaf o recordio mewn stiwdio – a hynny yn rhad ac am ddim yn y dyddiau arloesol hynny, drwy haelioni Les. Aethom ninnau yno – fy ‘Nhriawd’ a minnau – yn 1988 i recordio’r albwm Sbectol Dywyll pan oedd Stiwdio Les yn dechrau gweithredu’n fwy masnachol, ond ar delerau gwirion o rad o hyd.

Wrth i Les a minnau ddod i nabod ein gilydd yn well, daethom yn ffrindiau da, efo llawer yn gyffredin rhyngom ni. Roeddem ni’n dau wrth ein boddau efo arddulliau blws a gwerin ar gitâr acwstig, a’r ddau ohonom wedi treulio cyfnodau’n gweithio ar safleoedd adeiladu. Roedd Les wedi gweithio fel plastrwr, ac mewn teyrnged iddo yn yn y gwasanaeth ar ddiwrnod ei angladd, soniodd ei gyn-gydweithiwr, Jim Sbred, mor anodd fyddai i Les ganolbwyntio ar blastro ac yntau a’i fryd yn gyfan gwbl ar gerddoriaeth.

Yn y dyddiau yn dilyn ei farwolaeth, cafwyd amryw o deyrngedau iddo, gan gynnwys atgofion cynnes a digri sawl cerddor a ddarlledwyd ar eitem deyrnged awr o hyd ar raglen radio Lisa Gwilym, teyrnged hyfryd ar wefan Gruff Rhys a sylwadau niferus eraill ar y we. A hyn oll yn amlygu fod pawb oedd yn nabod Les wedi eu swyno gan ei bersonoliaeth annwyl dros ben. Roedd yn ddyn cwbl ddiymhongar a braidd yn swil, ac eto un fyddai wrth ei fodd yng nghwmni cyfeillion a chydnabod yn y tafarnau lleol, wrth sgwrsio ar y stryd neu mewn gigs.

Wrth siarad am gerddoriaeth mi fyddai’n cyffroi a bywiogi drwyddo. Roedd o’n gerddor medrus iawn wrth reddf, yn gitarydd a feistrolodd hefyd y gitâr fas, y mandolin, a’r banjo, ac a ddatblygodd yn gynhyrchydd, cyfansoddwr, peiriannydd sain, trefnydd cerdd a symbylydd pob math o greadigrwydd cerddorol. Yn ei stiwdio roedd yn ddewin a chanddo amynedd di-ben-draw, a rhoddai anogaeth a hyder i bwy bynnag fyddai yno yn recordio. Cofiaf ddanfon band roc Gwyddeleg o hogiau ifanc dibrofiad a braidd yn nerfus yno i recordio ychydig o draciau i Radio Cymru yn y 90au cynnar. Gwnaeth Les iddyn nhw deimlo’n gartrefol yn syth, a rhoi’r un sylw manwl i’w hymdrechion â phetaen nhw’n sêr enwocaf Iwerddon.

Mae llawer ohonom yn teimlo na chafodd sylw haeddiannol hyd yn hyn am ei gyfraniad disglair a difesur i gerddoriaeth Gymraeg gyfoes. Toedd o ddim yn fab i bobl ‘y pethe’, ddim wedi cael addysg coleg na phrifysgol, ddim yn perthyn i unrhyw un o’r cylchoedd cyn-gyfeillion coleg sy’n dylanwadu cymaint ar ein diwylliant cyfoes. Nid un i dynnu sylw ato’i hun oedd o, ond boi rhadlon, gwylaidd, hapus i ymfalchïo yn y clod gawsom ni am y cynnych y cyfrannodd gymaint iddo yn gymharol ddisylw.

Ond mae disgleirdeb a dyfeisgarwch Les fel cynhyrchydd, a’i gyfraniadau gwych fel cerddor, i’w clywed ar lawer record gan lawer artist a band. Os byddech yn wrandäwr cyson ar Radio Cymru rhwng diwedd yr 80au a’r 90au hwyr, mi fyddai cyfran sylweddol iawn o’r gerddoriaeth gyfoes fwyaf diddorol glywech chi wedi ei chynhyrchu gan Les, a hynny dan amodau eitha anodd a chyntefig i’w cymharu â safonau stiwdios mwy moethus y cyfnod, a dulliau recordio digidol heddiw.

Cynhyrchodd draciau gwych gan Celt, Meic Stevens, Ffa Coffi Pawb, Hefin Huws, Jecsyn Ffeif, Mwg, Jina, Y Fflaps, Ust – a llawer mwy nag y medraf eu cofio. Cynhyrchodd albwm cofiadwy Y Cyrff Llawenydd Heb Ddiwedd. Bu’n rhoi ei ddoniau ar waith draw yn Stiwdio Sain yn Llandwrog hefyd lle cynhyrchodd gampwaith Siân James, Distaw, yn ogystal ag albwm Iwcs a Doyle yn ddiweddarach. Tipyn o her i dditectif fuasai canfod yr holl fandiau ac unigolion a recordiwyd ganddo, a’r holl rai y buodd yn perfformio efo nhw ar lwyfannau yng Nghymru a thu hwnt. Perfformiodd ar rai o deithiau fy mand i, Rhai Pobl, gan chwarae’r gitâr, y banjo a’r mandolin. Perfformiodd hefyd ar deithiau efo Bryn Fôn a’r Band, Cerys Matthews a llu o rai eraill, ac yn fwy diweddar efo Gruff Rhys ac Y Peth.

Ond er mor ddisglair oedd o fel cynhyrchydd a cherddor, talcen caled iddo oedd ceisio ennill bywoliaeth dda o’i holl waith yn ystod blynyddoedd mwyaf cynhyrchiol ei stiwdio. Yn un peth, toedd o ddim yn codi tâl ar raddfa wir fasnachol am ei waith, oherwydd gwyddai’n iawn y byddai hynny’n golygu na fedrai’r rhan fwyaf o fandiau Cymraeg fforddio ei wasanaeth. Gweithiai oriau hir iawn yn y stiwdio, yn ymroi gant y cant i bob prosiect cerddorol, a hynny o gariad angerddol at gerddoriaeth. Cafodd gyfnodau hefyd yn ennill bywoliaeth mewn sawl dull a modd arall, gan gynnwys ei fan byrgers a chwn poeth, a chyfnod hefyd yn berchennog caffi yn Llanfairfechan. Yna, ar ôl i’r Super Furry Animals ddod i fri mawr rhyngwladol, cafodd gyfnod hapus iawn a pheth wmbredd o brofiadau lliwgar a chofiadwy yn teithio’r byd efo nhw, yn gweithio fel technegydd / rheolwr llwyfan.

Yn ddiweddar, sgrifennodd bwt o destun cynnes, atgofus ar gyfer llyfryn fy nghasgliad Ffoaduriaid. Ac ar noson lawog yng nghanol mis Mawrth eleni mi es i draw i Fethesda i gyflwyno copi o’r casgliad iddo. Roedd o wrth ei fodd fod cynnyrch y cannoedd o oriau gwaith stiwdio a dreuliwyd efo’n gilydd wedi ei roi ar gof a chadw. Ac roedd ganddo newyddion mawr i’w hadrodd i mi hefyd: roedd o wedi prynu hen fâs dwbl yn Lerpwl yn ddiweddar, ac wedi bod yn ei chwarae adref efo’i fab, ac wedi gwir ddarganfod am y tro cyntaf gynhesrwydd a chyfoeth yr offeryn. Roedd hyn yn andros o ddarganfyddiad iddo, ac roedd o fel hogyn yn ei arddegau, yn llawn brwdfrydedd wedi cael ei gitâr drydan gyntaf! Wrth inni ffarwelio â’n gilydd ar faes parcio siop Spar yn y gwynt a’r glaw, dyma fo’n fy nghofleidio i’n dynn, a datgan, fel y byddai’n gwneud bob tro, y dylem drefnu cyfle i gyd-chwarae a recordio efo’n gilydd eto cyn hir.

Yn fuan wedyn, treuliodd fis olaf ei fywyd yn Ysbyty Gwynedd a’r Liverpool Royal Hospital, ac roeddwn i mewn gwlad dramor yn ystod y cyfnod hwnnw. Ond ffoniodd fi dramor ddwywaith o’r ysbyty – y tro cyntaf i sôn am y casgliad Ffoaduriaid, a chymaint o fanylion roedd o wedi eu hailddarganfod wrth wrando ar y traciau. A’r eildro mi ffoniodd i’m llongyfarch yn wresog iawn ar ennill Gwobr RAP Radio Cymru. Ac roedd hynny’n gwbl nodweddiadol o Les – byddai bob amser yn ymfalchïo yn natblygiad a llwyddiant yr holl artistiaid y bu’n gweithio efo nhw – boed yn Super Furries neu’n fand bach lleol anadnabyddus. Yng nghalon fawr Les, roedd y profiad o gyd-greu a chydberfformio efo cerddorion eraill yn creu rhyw gwlwm parhaol rhyngddo ef a nhw.

Meddyliwn amdano fel cerddor a chynhyrchydd yn bennaf, ond roedd yn ddyn teulu hefyd – yn wr, yn fab, yn frawd, yn dad, yn daid ac yn llys-dad. Roedd ei deulu yn bwysig iawn iddo a byddai wrth ei fodd yn sôn gyda balchder am ei blant. Cydymdeimlwn yn fawr â’i weddw Jenny a’u plant – Danny, Paul, Ben, Lucy ac Alex – a’r teulu i gyd, teulu a fu’n gymaint o gefn iddo ar hyd y blynyddoedd.

Ar adeg colli cyfaill agos rydym yn dueddol o or-ddweud wrth siarad yn hiraethus amdano. Ond y tro hwn toes ’na ddim gor-ddweud. Roedd Les yn un o’r bobl fwyaf addfwyn ac annwyl imi eu cyfarfod erioed. A dyna a deimlir hefyd gan lawer o gyfeillion eraill yng Nghymru ac ymhell y tu hwnt. Un o syniadau arweiniol Les wrth recordio cerddoriaeth oedd “Less is more”. Ac ymhlith ei gyfeillion ffraeth, trodd hynny yn “Les is more”, dywediad smala ond hollol wir i ddisgrifio ei gyfraniad i’n bywydau ni ac i’n diwylliant cyfoes – rydym ni, ac mae ein diwylliant cerddorol ni, yn “fwy” oherwydd ei gyfraniad o. Diolchwn am gael ein cyffwrdd gan ysbryd mawr mwyn Les Morrison.

Bu farw Les Morrison ar 29 Ebrill 2011.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Gair Yng Nglust y Blaid

Ymlaen >

Cwrs Y Byd - Cymdeithas ‘Cenhadon Casineb’