Thema dywyll Thema golau

Lladd arweinydd Hamas

Cardiau chwarae yn dangos lluniau arweinwyr Hamas Cardiau chwarae yn dangos lluniau arweinwyr Hamas
Nid y fo oedd y dewis cyntaf i arwain Hamas. Roedd eraill, mwy gwleidyddol nag o, gwell yn gyhoeddus a chyda’r gallu i wenu’n fwy llydan o flaen camerâu. Etifeddodd y swydd ar ôl i’w gyfaill Ismail Haniyeh gael ei ladd yn Tehran ddiwedd Gorffennaf. Fesul un mae gwasanaethau cudd a milwrol yr Israeliaid wedi hela arweinwyr Palestinaidd – a Hezbollah – yn Libanus, Syria, Iran a Llain Gaza.  Lladdwyd Yahya Sinwar a dau warchodwr ganol Hydref a hynny mewn modd sy’n ddrych o’r trais, y dinistr a’r dioddefaint a ddaeth yn sgil yr ymosodiad mwyaf gwaedlyd ar Israel ers ei sefydlu. Roedd y tri wedi’u gweld yn symud yng nghanol adfeilion dinas Rafah yn agos i’r ffin â’r Aifft. Saethwyd dau ohonynt wedi brwydr, a chiliodd Sinwar, wedi’i anafu, i dŷ a oedd wedi’i hanner chwalu. Cafodd ei ladd wedi i danc danio ffrwydryn ato.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
Eluned Morgan

Eluned Morgan – ein Prif Weinidog anfoddog

Ymlaen >
Gafael dwylo person oedrannus mewn gwely

Cymorth i farw – dilema’r Cristion