Thema dywyll Thema golau
Fi, hi - a'r delyn
Llafur – plaid Kinnock unwaith eto?
Y Gêm Brydferth

Llafur – plaid Kinnock unwaith eto?

‘I’ve got my party back’: ymateb cofiadwy Neil Kinnock i fuddugoliaeth Ed Miliband yn y ras am arweinyddiaeth y Blaid Lafur Brydeinig. Go brin fod y brawd bach wedi diolch i Farwn Bedwellte am ddweud y fath beth ar goedd. Wedi’r cyfan, dyma’r dyn sy’n llwyddo i godi gwrychyn mwyafrif golygyddion a gohebwyr gwleidyddol y wasg Seisnig dim ond trwy agor ei geg. Cyn-was sifil ym Mrwsel sydd hefyd yn wr na cheisiodd erioed gelu ei acen Gymreig... â’n gwaredo! Ni fydd cael ei gysylltu â’i ragflaenydd yn gymorth o fath yn y byd i’r arweinydd newydd. Yn enwedig ac yntau eisoes mewn sefyllfa ddigon bregus yn sgil y ffaith iddo ennill yr etholiad heb gefnogaeth mwyafrif aelodau etholedig na  chyffredin ei blaid ei hun. Gyda Neil Kinnock, Charlie Whelan, Dave Simpson a Tony Woodley yn hawlio Ed fel eu dyn ‘nhw’, mae bywydau David Cameron a Nick Clegg gymaint â hynny’n haws.

Serch hynny, ni ellir gwadu fod Kinnock yn rhoi mynegiant i deimladau canran go helaeth o selogion y Blaid Lafur – ac nid yn unig cefnogwyr Ed chwaith. Iddynt hwy mae ethol arweinydd newydd yn fodd i gau pen y  mwdwl ar arbrawf Llafur Newydd a’r holl gyfaddawdu a dryswch ideolegol a ddaeth yn ei sgil. O’r diwedd caiff Llafur fod yn Llafur unwaith eto.

Bron na ellir clywed y rhyddhad yn lleisiau’r Llafurwyr selog, adain chwith eu hanian, yr wyf yn ffrindiau â hwy neu’n gydnabod iddynt. Buont yn dyheu – yn sychedu – am arweinydd y gallan nhw gredu ynddo. Hyn sy’n gyfrifol am y ffaith eu bod yn gwbl fyddar pan fydd sinigiaid fel minnau yn tynnu eu sylw at y ffaith mai prin fod trwch asgell gwybedyn yn gwahaniaethu safbwyntiau ideolegol y ddau Filiband. Nid yw’r ffaith mai Ed oedd awdur Maniffesto Llafur ar gyfer etholiad cyffredinol 2010 yn tycio dim chwaith. Mae fel petai ganddynt angen seicolegol i gredu mai dyn y chwith ydi Ed a bod Llafur ar fin dychwelyd ‘at ei gwreiddiau’.

 

Wrth i’r frwydr arweinyddol rygnu ymlaen ac ymlaen dros y misoedd diwethaf, mae dyn yn synhwyro bod pawb ac eithrio cefnogwyr mwyaf unllygeidiog a phybyr y Blaid Lafur wedi colli diddordeb. Yn wir, gyda chyn lleied yn gwahaniaethu rhethreg y gwahanol ymgeiswyr, dichon mai dim ond y rheini a fu’n sugno wrth deth y blaid ers yn ifanc oedd yn gallu llwyr werthfawrogi gwir arwyddocâd y mân wahaniaethau a welwyd. Gan nad felly y’m magwyd i, nid wyf yn honni deall y cyfan. Ond o’r hyn a ddeellais, o dyrchu trwy’r cyfan, gwir destun yr etholiad oedd Tony Blair a’i etifeddiaeth. Nid Gordon Brown, wrth reswm. Mae’n amlwg ddigon fod gan y Blaid Lafur gydwybod euog ynglªn â theyrnasiad hwnnw. Maent yn gwybod yn iawn fod cyfuniad o hunan-dwyll a llwfrdra wedi golygu bod awenau grym wedi cael eu trosglwyddo i feddiant dyn a oedd – beth bynnag ei rinweddau eraill – yn gwbl analluog i fod yn Brif Weinidog. Gorau po cyntaf y caiff o fynd yn angof. Mater arall yw Tony Blair, fodd bynnag. Fe fydd ef yn taflu clamp o gysgod dros y Blaid Lafur am flynyddoedd os nad degawdau i ddod.

 

Er ei fod bellach yn gyff gwawd neu waeth – Bliar (sic.), chwedl y bobl ryfedd hynny sy’n gadael sylwadau ar wefannau papurau newydd – ni ddylid fyth anghofio pa mor boblogaidd a grymus oedd Blair cyn i drychineb Irac heintio popeth. Dominyddodd wleidyddiaeth y Deyrnas Gyfunol i raddau nas gwelwyd ers yr Ail Ryfel Byd. Yn sicr ni chafodd Margaret Thatcher fyth y fath hindda. Defnyddiodd ei rym i gyflawni pethau gwirioneddol arwyddocaol. Trwy gyfuniad o styfnigrwydd a thwyll chwaraeodd ran allweddol mewn sicrhau heddwch yng Ngogledd Iwerddon. Fel y’n hatgoffwyd gan y ffilm ryfeddol honno, The Queen, achubodd groen y frenhiniaeth wrth i’r rheini ddawnsio ar ymyl y dibyn adeg marwolaeth Diana. Ac, o’n rhan ni’r Cymry, go brin y byddai refferendwm 1997 wedi ei hennill oni bai fod Blair, ar y pryd, yn sgubo popeth o’i flaen. Yn bwysicach o lawer yn y  cyd-destun presennol, Blair ddaru droi Llafur yn beiriant ennill etholiadau. Enillodd dri etholiad cyffredinol o’r bron.

Ac a oes unrhyw un, mewn difrif, yn credu na fyddai Llafur wedi gwneud yn well fis Mai petai ef ac nid Brown wedi eu harwain? Nid yw’n syndod felly y bydd pob arweinydd Llafur o hyn ymlaen yn cael ei gymharu hefo (‘call me’) Tony.

 

Gobaith cefnogwyr Ed Miliband yw y bydd eu dyn hwy’n profi’n fersiwn adain chwith o Blair. Yn wleidydd a fydd yn mwynhau’r un llwyddiant etholiadol heb dueddiadau anffodus Blair. Hynny yw, Blair heb yr edmygedd di-chwaeth o’r ariannog, heb yr America-addoliaeth anfeirniadol, a heb – gadewch i ni fod yn onest – y crefyddoldeb lled sinistr. Dyna hefyd oedd gobaith y rhan fwyaf o gefnogwyr y brawd mawr o ran hynny, dim ond ei fod wedi methu â darbwyllo penaethiaid Unite a’r GMB ei fod yn ddigon gwahanol i’w nemesis.

 

Y broblem hefo hyn oll, fodd bynnag, yw ei fod yn camddeall natur Blair a Blairiaeth. Er nad yw’n ffasiynol cydnabod hynny, roedd mwy i’r rhain na sbin a slicrwydd yn unig. Mwy hefyd na’r celwyddau a arweiniodd at yr ymosodiad anghyfreithlon a thrychinebus o annoeth ar Irac. Yn hytrach, roedd seiliau cadarnach i brosiect Llafur Newydd. Rhyngddynt fe gynhyrchodd Blair, Brown, Mandelson ac eraill megis yr ysgolhaig Tony Giddens, ddiagnosis o natur cymdeithas gyfalafol ar drothwy’r unfed ganrif ar hugain, ynghyd hefyd â meddyginaeth a oedd yn gyson ag ef. Yn nhyb Llafurwyr Newydd, rydym wedi cychwyn ar gyfnod di-droi’n-ôl globaleiddio. Gyda Tsieina ac India bellach yn rhan o un economi fyd-eang, ofer ceisio gwrthsefyll grymoedd y farchnad. O geisio caethiwo neu ffrwyno cyfalaf fe fydd yn codi ei bac ac yn symud i leoliad mwy ffafriol. Mewn cymdeithas o’r fath, ni ellir glynu at yr hen efengyl ddemocrataidd gymdeithasol a’i phwyslais ar gydraddoldeb. Daeth yr oes honno i ben. Rhaid i’r pwyslais traddodiadol ar y wladwriaeth hefyd gilio o’r neilltu i raddau helaeth iawn: onid yw’r farchnad – doed a ddelo – yn fwy effeithlon fel modd i ddosbarthu nwyddau a breiniau? O safbwynt y chwith, y cwbl a ellir ei wneud ydi rhoi rhwydd hynt i’r grymoedd hynny na ellir yn y pen draw eu gwrthsefyll – trwy ddadreoleiddio yn anad dim – a defnyddio’r trethi (rhesymol) a godir ar y cyfoeth a grëir er mwyn gwella safle absoliwt (ond nid cymharol) y mwyaf anghenus.

 

Byddai ceisio unrhyw drywydd arall yn arwain i ddifancoll. Hyd yn oed os nad ydi rhywun yn cytuno â’r dadansoddiad – ac yn bersonol, rwy’n anghytuno hefo llawer iawn ohono – mae’n anodd gwadu nad ydyw’n ddigon rhesymol a rhesymegol, ar ei delerau ei hun. Byddwn yn mynd mor bell â dadlau bod ’na ddifrifoldeb deallusol yn perthyn iddo. Rwyf hefyd yn tybio bod prif ffrwd polisi  llywodraethau Blair a Brown wedi llifo i gyfeiriad oedd yn gwbl gyson â’r dadansoddiad hwn. I’r graddau cyfyngedig y mae unrhyw lywodraeth yn gallu gosod ei agenda ei hun, fe ddilynwyd trywydd pendant a chyson. Dim ond wedi i ddadreoleiddio arwain at chwalfa economaidd y cafwyd unrhyw newid o ran rhethreg a sylwedd. Hyd yn oed wedyn, bu llywodraeth Brown yn ymdrechu’n galed i beidio â chrwydro’n rhy bell oddi wrth efengyl Llafur Newydd. Sylwer, er enghraifft, ar yr amharodrwydd i wladoli’r banciau wrth i’r biliynau lifo i mewn iddynt o’r coffrau cyhoeddus.

 

Y cwestiwn mawr ydi hyn: a oes gan Ed Miliband ddadansoddiad neu ddiagnosis – ac felly meddyginiaeth – sy’n sylfaenol wahanol i eiddo Blair a’i griw? Chlywais i ddim i awgrymu hynny yn ystod y ras arweinyddol. Yn hytrach, ymddengys mai’r hyn yr oedd y ddau frawd fel ei gilydd yn ei gynnig oedd fersiwn gronyn yn fwy adain chwith o Blairiaeth. Yn hyn o beth gallwn fod yn weddol sicr y bydd y rheini sy’n gobeithio bod ethol Ed yn golygu dychwelyd at hen wirebau’r chwith – beth bynnag y bônt – yn rhwym o gael eu siomi. Y broblem i’r Llafurwyr rheini fyddai’n bodloni ar ailadrodd llwyddiant etholiadol Blair heb gymhlethdodau Irac a pherthynas Blair a Brown, yw fod ’na ddau arweinydd gwleidyddol Prydeinig arall sydd eisoes wedi gwisgo mantell yr arweinydd mwyaf llwyddiannus yn hanes Llafur. David Cameron a Nick Clegg ydyn nhw. Fy nhybiaeth i yw bod y cyntaf o’r rheini lawer iawn yn fwy tebygol nag Ed Miliband o ail-greu perthynas ddihafal Blair â’i middle England bondigrybwyll.

 

Y perygl i Kinnock, felly, yw y bydd o wedi cael ei hen blaid yn ei hôl – plaid sy’n methu’n glir ag ennill etholiadau ac sy’n rhanedig ac yn anniddig yn ei chroen ei hun.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Fi, hi - a'r delyn

Ymlaen >

Y Gêm Brydferth