Thema dywyll Thema golau

Llafur yn camddeall Brexit

erthygl-mai-2019-1964-898 erthygl-mai-2019-1964-898
Roedd cynhadledd y Blaid Lafur Gymreig yn Llandudno cyn y Pasg yn ddigwyddiad digon hwyliog. Roedd cannoedd yn bresennol, gan gynnwys llawer o bobl ifanc, a chafwyd areithiau arweinyddol gan Mark Drakeford a Jeremy Corbyn oedd yn rhagori ar ddisgwyliadau isel, efallai, y cynadleddwyr. A bod yn deg, nid areithiau mawr cyhoeddus yw forte y naill na’r llall. A do, bu ambell bleidlais ddadleuol oedd yn golygu fod cynadleddwyr yn teimlo bod pwynt i’w presenoldeb. Ar ben hynny, os oedd unrhyw un yn diflasu ar yr holl sioe, yna roedd duwiau’r tywydd wedi penderfynu bod yn garedig. Roedd y golygfeydd i gyfeiriad Pen y Gogarth yn drawiadol. Afraid dweud, serch hynny, fod Brexit yn gysgod dros y cyfan. Un awgrym o hynny oedd yr olwg lwyd a lluddedig ar yr Aelodau Seneddol hynny y sylwais arnynt yn crwydro Venue Cymru.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-mai-2019-1963-897

Ta ta tŷ ha’

Ymlaen >
erthygl-mai-2019-1965-899

‘Parliment Uffernol’