Thema dywyll Thema golau

Llanast y gwasanaeth iechyd

Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd
Ers degawdau lawer, mae problem gynyddol wedi bod yn cyniwair yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Oherwydd sawl rheswm cadarnhaol, sy’n cynnwys cynnydd mewn addysg, cyflwr tai, maeth ac incwm yn gyffredinol, mae pobl Cymru a’r Deyrnas Unedig yn byw’n hŷn. Newyddion da inni gyd, ie ddim? Wel, ie a nage. Dwi’n siŵr y byddai Llywodraeth Cymru yn cytuno â Syr John Morris-Jones yn ei ymdriniaeth o’r ymadrodd ‘Henaint ni ddaw ei hunan’. I’r Ysgrifennydd Iechyd a sawl un arall, daw, ‘daw ag och gydag ef, a chwynfan’. Yn feddyg ifanc yn 1997, rwy’n cofio ymgymryd ag astudiaeth dan oruchwyliaeth Cyfarwyddwr Meddygol Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru ar y pryd, Dr David Prichard. Canfuwyd bod canran uchel o’r rhai oedd yn cael eu derbyn ar frys i adran feddygol Ysbyty Gwynedd yn gwneud hynny nid am resymau meddygol, ond am resymau cymdeithasol; hynny yw, anallu i fyw’n annibynnol a diogel yn eu cartrefi heb rywun i ofalu amdanynt.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Cip ar weddill rhifyn Rhagfyr / Ionawr

Ymlaen >
Mari Lwyd yng Nghlwb y Bont, Pontypridd

Mari’n codi calon