Thema dywyll Thema golau

Llanelli Huw Edwards

Trwy Lygaid Tri

Dros y blynyddoedd mae Llanelli wedi cynhyrchu nifer o Gymry amlwg mewn sawl maes. Gofynnodd BARN i dri a fagwyd yno rannu eu hatgofion a'u hargraffiadau o'r lle. Dyma un ohonynt.

Huw Edwards
Fy Llanelli i – Tref heb ei thebyg

Eisteddfod ‘Sir Gâr’ yw hon, medden nhw, ond mae pawb yn gwybod mai lol yw hynny. O’r funud gyntaf i’r olaf, Eisteddfod Llanelli yw hi. Eisteddfod Bro’r Sosban. Dyna yw hanfod a lliw a chymeriad y brifwyl hon ar lannau aber Llwchwr.

Do, fe gynhaliwyd cymanfa’r cyhoeddi yn Bethani, Rhydaman, hen gapel Nantlais, a pheth da oedd gweld hynny, er bod gan Llanelli gapeli mwy godidog o lawer at y pwrpas. Ta waeth. Trigolion Llanelli sy’n croesawu eu cyd-Gymry i’r Brifwyl, nid trigolion graslon Rhydaman na’r un dref arall yn y sir.

Y gobaith a’r bwriad yw ail-greu llwyddiant prifwyl 2000, un o’r goreuon. Rhoes y brifwyl honno gyfle arbennig i Lanelli ddangos ei chryfder arbennig, sef cyfuniad o dreftadaeth ddiwydiannol a diwylliant Cymraeg gyda’r mwyaf cyfoethog yng Nghymru. Y mae hynny yn sicr yn destun balchder dwfn i ni drigolion a chyn-drigolion y dref.

Ond ai’r un dref, er tegwch, sy’n croesawu eisteddfodwyr 2014?

Y mae cymeriad Llanelli wedi newid yn sylfaenol yn y blynyddoedd diwethaf. Dylai pob ymwelydd â’r brifwyl dreulio bore yng nghanol y dref i werthfawrogi’r hyn a gyflawnwyd, er bod mynydd o waith yn dal heb ei orffen. Rhaid mynd yn ol i’r 1970au cynnar i olrhain yr hanes. Bu Llanelli yn elfen bwysig yn arbrawf fwlgar cynghorau lleol i ‘foderneiddio’ trefi De Cymru.

Dymchwelwyd y neuadd farchnad eang o oes Fictoria a chodwyd bocs concrid enfawr yn ei lle. Maes parcio aml-lawr oedd hwnnw, yn naturiol, yn ôl diléit y cyfnod, a chladdwyd y neuadd farchnad newydd oddi tani. Hen le tywyll, diflas, yw hwnnw, ac mae’r ffaith bod marchnadwyr Llanelli yn dal i weithio yno yn destun rhyfeddod i bawb. Codwyd canolfan siopa yn ardal Trostre, y tu allan i’r dref, a dinistriwyd bywyd masnachol canol Llanelli i bob pwrpas. ‘Asynnod’ oedd y sawl a fu’n gyfrifol, medde Dad, ac mae’n anodd anghytuno.

Peth braf, felly, yw cael dychwelyd i Lanelli a gweld gwelliannau amlwg...



Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

‘Re zo re!’ (Digon yw digon) Y Llydawyr yn dangos eu hochr

Ymlaen >

Theatr – holi Sion Eirian