Thema dywyll Thema golau

Llawenhau a rhybuddio

erthygl-medi-2018-1906-842 erthygl-medi-2018-1906-842
Pwy fasa wedi betio yn erbyn Huw Thomas, arweinydd Cyngor Caerdydd, yn sbwylio Steddfod dda? Pob clod i Gymry’r ddinas; gwireddwyd gweledigaeth Iwan Llwyd o gynnal y brifwyl mewn cymuned, ar y stryd ac nid mewn cae, yn gampus. Cafwyd cynwysoldeb; o ran rhywioldeb yn ôl y cynllun ardderchog, ‘Mas ar y Maes’, ac roedd lleiafrifoedd gweladwy yn weladwy mewn niferoedd sylweddol am y tro cyntaf erioed. Adlewyrchwyd pwysigrwydd ein diwylliant dinesig Cymraeg. O Gaerdydd y deuai pob un o’r prif fuddugwyr llenyddol ac eithrio Manon o Dywyn. Nid oeddwn yn synnu fod Huw Jones, cadeirydd Awdurdod S4C, yn cyfeirio mewn sesiwn drafod at Gymru ‘Islwyn Ffowc Elis’. Meddylier am y weledigaeth yn Wythnos yng Nghymru Fydd o Gymru Gymraeg ffyniannus, fyrlymus a deniadol, a llond y lle o Gymry ifanc rhywiog; cafwyd honno eleni ym Mae Caerdydd. Ond mae yna weledigaeth arall yn Wythnos yng Nghymru Fydd, a honno’n un ddystopaidd.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-medi-2018-1905-841

Dyfodol amaeth

Ymlaen >
erthygl-medi-2018-1907-843

Y Cyfansoddiadau – adolygiad