Wrth i ddraig wen Lloegr ymysgwyd o’r trwmgwsg a gydiodd ynddi am ganrifoedd wrth iddi swatio dan gwrlid cysurus Prydeindod, y perygl mawr fyddai mai ni, bobl fychan yr ymylon, fyddai’n dioddef. Os deuai datganoli buan byddai’r Saeson yn dechrau ffromi yn wyneb yr anghysondebau a’r anghyfiawnderau amlwg sy’n codi yn sgil datganoli anwastad – yr anghysondebau a’r anghyfiawnderau rheini a grisialir yng Nghwestiwn Gorllewin Lothian. Mi fyddent hefyd yn dod yn fwy ymwybodol o’r modd y llwyddodd y Celtiaid i odro eu haelioni diniwed dros gyfnod o ddegawdau trwy sicrhau mwy na’u siâr o wariant cyhoeddus. Yn fwy sylfaenol fyth, wrth iddynt fwrw heibio eu hunaniaeth Brydeinig wâr, ni fyddai dim i’n gwarchod bellach rhag yr elfennau senoffobaidd rheini y mae cymaint ar y chwith, yn arbennig, yn grediniol sy’n rhan annatod o hunaniaeth ethnig y Sais.
Proffwydo gwae felly. Ond am ddegawdau cyntaf datganoli, fu dim golwg o ddrwgdeimlad nac ing nac angst. Yn wir, yn ôl tystiolaeth yr arolygon barn rheini oedd yn ceisio canfod ymateb pobl Lloegr, prin fod y Saeson wedi sylwi rhyw lawer. Ac i’r graddau eu bod nhw wedi sylwi... wel, iawn ynte. Os ’dach chi Albanwyr neu Gymry eisiau Senedd neu Gynulliad (beth bynnag ydi peth felly), hei lwc ichi. Dim ond ein bod ni’n cael parhau â’r hen drefn o gael ein llywodraethu gan San Steffan, mi gewch chi wneud fel y mynnoch. Yn wir, cyn lleied fu’r ymateb yn Lloegr fel bod y rhan fwyaf o ysgolheigion sy’n ymddiddori yn y farn gyhoeddus wedi colli diddordeb yn yr holl fusnes. Felly hefyd y bobl sy’n ariannu eu gwaith. Pan geisiodd rhai ohonom gynnwys sampl Seisnig mewn arolwg o agweddau mewn 15 ‘rhanbarth’ Ewropeaidd a gynhaliwyd yn 2009, methiant fu pob ymdrech i sicrhau nawdd. Yn y diwedd, cymerodd Cymru a’r Alban eu lle ochr yn ochr â Catalwnia, Bafaria a’r Alsace, ond wnaed dim â Lloegr.
Trodd 15 yn 14.
Ond criw ar y naw ydym ni breswylwyr y twr ifori. Felly yn 2011 dyma ymdrech arall. A’r tro yma, gyda chymorth cil-dwrn bach gan Ymddiriedolaeth Rowntree, llwyddwyd i gasglu digon o arian ynghyd yng Nghaerdydd a Chaeredin (ie, rhyfedd o fyd ynte – Cymru a’r Alban yn gorfod ariannu ymchwil ar Loegr!) fel bod modd cynnal yr arolwg mwyaf cynhwysfawr o agweddau ein cymdogion tuag at ddatganoli, llywodraeth diriogaethol a hunaniaeth ers blynyddoedd lawer. Bydd y canlyniadau’n cael eu cyhoeddi’n llawn yn fuan wedi i’r rhifyn presennol o Barn gyrraedd o’r wasg.** Ond yn y cyfamser, dyma flas o’r cynnwys. Achos, bobl bach, mae pethau mawr ar droed dros Glawdd Offa.
• • •
Cynamserol oedd y proffwydoliaethau, yn hytrach nag anghywir. Oblegid o gyfuno ein ffigyrau ni o 2011 efo tystiolaeth flaenorol (Tabl 1), gwelir yn eglur fod agweddau trigolion Lloegr tuag at ddatganoli wedi newid.
Ers 2007 gwelwyd cynnydd sylweddol yn y ganran sy’n credu bod datganoli wedi cael effaith negyddol. Mae bellach bron iawn ddwywaith cymaint o etholwyr yn credu bod datganoli wedi gwaethygu llywodraethiant Prydain nag sy’n credu ei fod wedi gwella pethau. Yn ddiddorol ac yn arwyddocaol, er mai’r Alban fu’n ennyn llid y wasg felen Lundeinig, prin yw’r gwahaniaeth yn agweddau etholwyr Lloegr tuag at Gymru.
Daw arwyddocâd hyn yn amlwg pan welwn cymaint bellach yw anfodlonrwydd etholwyr Lloegr hefo sefyllfa benodol yr Alban. Fel y gwelir yn Nhabl 2, mae mwyafrif llethol bellach yn credu y dylid rhwystro Aelodau Seneddol o’r Alban rhag pleidleisio yn San Steffan ar faterion sy’n ymwneud â Lloegr yn unig. Ar ben hynny, ceir mwyafrif mawr ymhlith etholwyr Lloegr i’r syniad o gyflwyno’r hyn a elwir yn ‘devo-max’ ar gyfer yr Alban: hynny yw, symud i sefyllfa lle mae’r arian cyhoeddus a werir yn yr Alban yn deillio’n uniongyrchol o’r trethi a godir yno (Tabl 3). Heb os, rhan o’r gyriant yma yw teimlad eang iawn yn Lloegr fod yr Alban yn cael cyfran annheg o wariant cyhoeddus. Ond fel y dengys Tabl 4, nid dyna’r sefyllfa yn achos Cymru a Gogledd Iwerddon. O gofio fod agweddau tuag at ddatganoli Cymreig wedi suro bron cymaint ag ydynt tuag at ddatganoli i’r Alban, mae’n amlwg felly nad dim ond storïau’r Mail a’r Express ynglyn â’r modd y mae trethdalwyr Lloegr yn cynnal hawddfyd honedig y Celtiaid sy’n gyfrifol am y newid agwedd a welwyd. Mae rhywbeth sylfaenol ar droed.
Beth yw’r ‘rhywbeth’ yna? Newid trawiadol ym mhatrymau hunaniaeth genedlaethol Lloegr. Mewn byr eiriau: aeth y Saeson yn fwy Seisnig. Gwelir hyn yn eglur wrth ystyried y duedd mewn ymatebion i gwestiwn sy’n gofyn i etholwyr eu lleoli eu hunain ar ystod hunaniaeth sy’n ymestyn o’r Seisnig yn unig i’r Prydeinig yn unig (Tabl 5). Mae’r gogwydd tuag at yr ochr Seisnig yn amlwg. O dreiddio dan wyneb y data gwelir fod y gogwydd yn gyson ar draws pob rhan o Loegr ac ar draws pob dosbarth cymdeithasol. Mae’r newid yn un cymharol gyflym hefyd. Yn sicr ni welwyd dim byd cyffelyb yn naill ai’r Alban na Chymru dros yr un cyfnod. A diolch i’r newidiadau hyn, o gymharu Lloegr hefo ‘rhanbarthau’ eraill ar hyd a lled Ewrop (Tabl 6), gwelir bellach mai dim ond yn yr Alban a Chatalwnia y ceir hunaniaeth is-wladwriaethol gryfach nag eiddo Lloegr (Tabl 6). (Os yw hyn yn ergyd i falchder cenedlaethol rhai darllenwyr, digon yw dweud mai canran uchel poblogaeth Cymru a anwyd yn Lloegr sy’n egluro pam fod Cymru’n llai Cymreig nag yw Lloegr o Seisnig. O ystyried dim ond y rheini a anwyd yng Nghymru, caiff y darlun ei droi ar ei ben gyda Chymru’n cystadlu â’r Alban am le ar ‘frig’ y gynghrair dan sylw.) Pam fod hyn yn arwyddocaol o ran egluro’r newid agwedd tuag at ddatganoli yn gyffredinol, a thuag at yr Alban yn arbennig? Oherwydd po fwyaf Seisnig yr hunaniaeth, po fwyaf anfodlon yw etholwr ynglyn â’r status quo cyfansoddiadol, a pho fwyaf awyddus i weld diwygiadau.
Drwyddi draw, mae’r gefnogaeth i’r status quo wedi syrthio’n gyflym iawn. Hyd yn ddiweddar yr oedd mwyafrif etholwyr Lloegr am barhau i weld San Steffan yn llywodraethu Lloegr yn unol â’r drefn a sefydlwyd wedi 1999. Erbyn heddiw, fodd bynnag, dim ond 1 o bob 4 o etholwyr Lloegr sy’n fodlon â’r drefn bresennol (Tabl 7). Mae’r mwyafrif am weld diwygio sylfaenol. Yn benodol, hyd yn oed os yw’r arolwg yn awgrymu bod peth dryswch yn parhau ynglyn â’i union hyd a’i lled, mae canran gynyddol am weld datblygu ‘dimensiwn Seisnig’ i lywodraethiant Lloegr. Boed trwy ddiwygio trefniadau San Steffan neu trwy greu Senedd benodol i Loegr, mae mwyafrif pobl Lloegr bellach yn dymuno gweld Lloegr yn cael ei thrin fel uned diriogaethol benodol gyda’i llywodraethiant wedi ei gwahanu’n fwy eglur oddi wrth lywodraethiant gweddill y Deyrnas. Po fwyaf Seisnig yr hunaniaeth, mwyaf croch yr alwad hon.
• • •
O gofio cymaint o’r darogan o ran dyfodol Prydain ddatganoledig sydd fel petai’n cael ei brofi’n gywir, a oes lle i ninnau felly ddechrau poeni? A fyddwn yn difaru’r deffro? I’m tyb i, na fyddwn. Yn hytrach, a heb geisio swnio’n nawddoglyd, yr hyn sy’n gadarnhaol yw pa mor ‘normal’ yw ymateb ein cymdogion. Wrth iddynt ddod yn gynyddol ymwybodol o’u Seisnigrwydd, ni ddylem synnu eu bod yn dechrau codi cwestiynau ynglyn â lefelau gwariant cyhoeddus yn yr Alban, neu sefyllfa lle y gall Aelodau Seneddol nas etholwyd yn Lloegr benderfynu ffawd deddfwriaeth Seisnig. Mae’r sefyllfa bresennol yn anghyfiawn ac mae pob hawl ganddynt i gwyno. Ni ddylem synnu – na phoeni chwaith – fod Saeson hefyd am weld sefydlu dimensiwn Seisnig i’w gwleidyddiaeth sydd wedi ei gwahanu’n fwy eglur oddi wrth wleidyddiaeth y Deyrnas drwyddi draw. Wedi’r cyfan, onid dyna’n union ddeisyfiad mwyafrif trigolion yr Alban yn ogystal â ni’r Cymry? Os oes perygl yn hyn oll, yna nid o gyfeiriad pobl Lloegr y mae’n hanu, ond yn hytrach o gyfeiriad y pleidiau gwleidyddol Prydeinig. Yn syml, mae’r tair plaid fawr yn hynod anghyffyrddus efo trafod Lloegr fel Lloegr. Er bod unigolion o fewn y Blaid Lafur megis Jon Cruddas wedi ei deall hi, mae’r blaid ei hun wedi ei dal rhwng methiant llwyr eu hymdrech i orfodi Cynulliadau Rhanbarthol ar Loegr, ar y naill law, a’u dibyniaeth ar Aelodau Seneddol o Gymru a’r Alban i sicrhau mwyafrif yn San Steffan, ar y llaw arall. Y canlyniad ydi’r math o nonsens a geir ym mhamffled Aelod Seneddol Pontypridd Owen Smith, a drafodwyd gennyf yn rhifyn mis Hydref eleni o Barn. O ran y Rhyddfrydwyr, er eu bod – yn ddamcaniaethol – yn ffafrio Prydain ffederal, maent yn gwneud hynny ar sail rhannu Lloegr yn rhanbarthau – polisi nad oes iddo unrhyw gefnogaeth heb sôn am hygrededd. Ar yr olwg gyntaf, y Torïaid sydd yn y sefyllfa orau i arwain ar y mater ac i fanteisio ar y newidiadau hyn yn y farn gyhoeddus. Wedi’r cwbl, buont yn ymgyrchu mewn sawl etholiad cyffredinol o’r bron ar sail ymrwymiad maniffesto i ryw fersiwn o ‘English Votes for English Laws’ (EVEL). Ond eto, nid oes sylwedd i’r ymrwymiad.
Wedi’r cyfan, o gofio bod Fformiwla Barnett yn golygu bod unrhyw ymrwymiad ariannol i Loegr efo goblygiadau i ni’r datganoledig, mae’n gwbl resymol fod ein Haelodau Seneddol yn cymryd diddordeb yn y materion hynny sy’n ymddangos ar yr olwg gyntaf yn faterion sy’n ymwneud . Lloegr yn unig. Yr unig ffordd i droi EVEL yn realiti fyddai diwygiad radical yn y modd yr ariennir Cymru a’r Alban. Eto, mae’r Torïaid yn gwrthwynebu hynny! Ymddengys fod eu gwrthwynebiad greddfol i ehangu grymoedd Caeredin a Chaerdydd yn bwysicach na’u hymrwymiad i sicrhau tegwch i Loegr. Am y tro cyntaf erioed, efallai, yn nhudalennau Barn mae’n bryd i ni ddatgan yn groyw: mae Lloegr yn haeddu gwell!







Eithriwyd categoriau hunaniaeth Eraill a Ddim yn gwybod o'r Tabl 'English Votes for English Laws' (EVEL) ydi'r ymadrodd a ddefnyddir i gyfleu syniad o ddiwygio rheolau sefydlog Ty'r Cyffredin i sicrhau mai dim ond ASau o etholaethau Seisnig sy'n cael pleidleisio ar faterion sy'n ymwneud â Lloegr yn unig.
** Cyhoeddir Richard Wyn Jones, Guy Lodge, Ailsa Henderson, Charlie Jeffery, The dog that finally barked: England as an emerging political community gan yr Institute for Public Policy Research (Llundain) yn ystod yr wythnosau nesaf. Ceir manylion technegol yr Arolwg ynghyd â manylion y ffynonellau data eraill a ddefnyddiwyd yn yr adroddiad hwnnw.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru

