Mae cofeb fechan i Hedd Wyn i’w gweld eisoes ar groesffordd yn agos i lle y syrthiodd ar Gefn Pilkem, gerllaw pentref Langemark, ond mae cynlluniau ar y gweill i godi cofeb sylweddol o garreg ac efydd ar dir gerllaw, gyda gardd yn ei hamgylchynu. Mae cronfa’r Daith Feicio yn agored i bwy bynnag sy’n dymuno cyfrannu ati ac mae modd gwneud hynny mewn dwy ffordd:--
- ar-lein i gyfrif LloydsTSB: “Côr Rygbi Gogledd Cymru – Taith Hedd Wyn” 30-90-43 42031368 Cyfeirnod – Taith Hedd Wyn
- cyfrannu trwy siec i “Côr Rygbi Gogledd Cymru – Taith Hedd Wyn”, a’i hanfon at Gadeirydd y Côr, Red Lion Farm, Llanllechid, Bangor, Gwynedd LL57 3LE
Mae nifer wedi cyfrannu yn barod ac mae trefnwyr y gronfa yn dymuno diolch i bawb am eu haelioni.

Gellir gweld hefyd hanes y Prif Weinidog Carwyn Jones yn torri’r dywarchen gyntaf ar y tir yn Langemark, ychydig ddyddiau ar ôl i’r beicwyr ymweld â’r ardal, ar wefan Golwg:
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru

