Thema dywyll Thema golau

Llwyddiant etholiadol Sinn Féin

erthygl-mawrth-2020-2051-981 erthygl-mawrth-2020-2051-981
Llwyddiant ysgubol Sinn Féin oedd stori fawr etholiad cyffredinol Iwerddon 2020. Roedd yr arolygon barn wedi awgrymu y byddai’r blaid yn gwneud yn dda ond eto i gyd pan ddechreuodd y canlyniadau lifo i mewn, syfrdanwyd pawb – gan gynnwys Sinn Féin ei hun. Mewn etholaeth ar ôl etholaeth, ymgeiswyr Sinn Féin oedd ar y brig. Mewn sawl lle fe lwyddon nhw i wthio gwleidyddion amlwg, poblogaidd i lawr i’r ail neu’r trydydd safle, gan gynnwys y Taoiseach ei hun, Leo Varadkar. Fe gafodd o ei guro gan gynghorydd lleol. Yn ein hetholaeth ni, De Kildare, aelod cwbl anhysbys o Sinn Féin ddaeth yn gyntaf. Ei henw ydi Patricia Ryan – a’r unig beth trawiadol amdani hyd yn hyn ydi ei bod hi wedi treulio’r ymgyrch etholiadol yn Lanzarote ar ei gwyliau. Fe gafodd llawer o aelodau llwyddiannus Sinn Féin eu hethol efo mwyafrifoedd anferthol. Ond doedd Sinn Féin ei hun ddim wedi rhagweld y llwyddiant a dim ond 42 o ymgeiswyr oedd ganddi.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-mawrth-2020-2050-980

Boris a’r BBC

Ymlaen >
erthygl-mawrth-2020-2052-982

Byd anodd i ferched ifanc