Thema dywyll Thema golau

Llwyfannu llais y merched

Beckett sa Chreig: Guth na mBan. Llun: Arcade Film

Eleni fel rhan o Ŵyl Ddrama Dulyn (25 Medi – 12 Hydref) perfformiwyd tair o ddramâu byrion Samuel Beckett mewn cyfieithiad Gwyddeleg. Beckett sa Chreig: Guth na mBan (Beckett yn y Graig: Llais y Merched) oedd teitl y cynhyrchiad. Yma mae ein gohebydd yn sôn am gefndir y dramâu a’i ymateb iddynt yn yr Ŵyl.

Hyd y gellid gweld, y cynhyrchiad hwn o weithiau gan Samuel Beckett oedd yr unig arlwy mewn Gwyddeleg yng Ngŵyl Ddrama Dulyn eleni. Cyd‑gynhyrchiad oedd yma rhwng An Tabhdhearc (Theatr Genedlaethol y Wyddeleg a leolir yn Gallimh) a Company SJ (cwmni’r cyfarwyddwr Sarah Jane Scaife) a chawsai’r gwaith ei gyflwyno gyntaf ar lwyfan An Tabhdhearc yn ôl ym mis Goffennaf. Yr awdur a’r cyhoeddwr Micheál Ó Conghaile a wnaeth y gwaith trosi ac yr oedd y tair drama fer ar gael ac ar werth ar noson y perfformiad dan y teitl Ní Mise agus Drámaí Eile.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Uchelgais a phetruster

Ymlaen >

Stafell Sbâr Sain