Thema dywyll Thema golau

Llythyrau Jonah at Mona

Len (Jonah) a Mona yn ymlacio yn y parc. Ar y dde: arysgrif brintiedig gan Jonah Jones o gerdd gan Euros Bowen ar gyfer ‘Portffolio Cymru-America’ Len (Jonah) a Mona yn ymlacio yn y parc. Ar y dde: arysgrif brintiedig gan Jonah Jones o gerdd gan Euros Bowen ar gyfer ‘Portffolio Cymru-America’
Mae enghreifftiau o waith yr amryddawn Jonah Jones, y mae’n ganmlwyddiant ei eni eleni, i’w gweld ar hyd a lled Cymru a thu hwnt. Ei gerfluniau a’i gofebau cyhoeddus yw ei waith mwyaf cyfarwydd, ond fe’i cofir hefyd am ei waith llythrennu trawiadol a’i ffenestri lliw, ac roedd yn peintio’n ogystal. Mae tua phedwar ugain o’i weithiau celf, neu ffotograffau ohonynt, i’w gweld mewn arddangosfa ganmlwyddiant yn Oriel Plas Glyn-y-Weddw, Llanbedrog. Mae’r gweithiau’n rhychwantu hanner canrif o oes artist cynhyrchiol a gredai’n angerddol mewn celfyddyd gyhoeddus. Ac mae llyfr newydd yn taflu goleuni ar y modd y penderfynodd Jonah ddod yn artist yn y lle cyntaf, sef cyfrol o lythyrau a ysgrifennodd, fel gŵr ifanc adeg yr Ail Ryfel Byd, at wraig o’r enw Mona Lovell. Yn annisgwyl y daeth y llythyrau dadlennol hyn, a gyhoeddir yn Dear Mona: Letters from a Conscientious Objector (Seren Books), i sylw mab Jonah, y newyddiadurwr Pedr Jones, sef golygydd y gyfrol.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-chwefror-2019-1944-875

Adduned Byd Newydd

Ymlaen >
erthygl-chwefror-2019-1946-878

Mwy na hollti blew