Thema dywyll Thema golau

Môn Victor Cirefice

I mewn i’r tawelwch (olew ar gynfas) I mewn i’r tawelwch (olew ar gynfas)
A’r Cymoedd yn bennaf y byddwn yn cysylltu’r Eidalwyr hynny a ymsefydlodd yng Nghymru a mynd ati i agor caffis a pharlyrau hufen ia. Ond ym mhegwn arall Cymru, yng Nghaergybi, yr agorodd rhieni’r artist Victor Cirefice eu caffi nhw, ar derfyn y 1940au. Mae ’na reswm da pam mai i Gaergybi yn hytrach na Chaerffili, dyweder, y cafodd y Cirefice-iaid eu denu. Roedden nhw eisoes wedi ymfudo i Ddulyn o’u cynefin yn Cassattio, rhwng Rhufain a Napoli. Ond os mai eu bwriad oedd symud yn y man i wledydd Prydain, rhwystrwyd hynny gan yr Ail Ryfel Byd. Yn wahanol i Weriniaeth Iwerddon niwtral, roedd Prydain ar y pryd yn carcharu Eidalwyr am na ellid, ym marn yr awdurdodau, ymddiried yn eu teyrngarwch. Pan ddaeth yr heddwch, y cyfan oedd angen i’w rieni ei wneud oedd dal llong a chroesi’r 57 milltir o Dun Laoghaire i Gaergybi. Ac yno yn 1949 y ganed Vittorio, neu Victor. A’i ynys enedigol sydd wedi ysbrydoli’r cyfan o’r lluniau mewn arddangosfa fawr o’i waith sydd yn Oriel Môn ar hyn o bryd.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-ebrill-2019-1958-891

Rygbi Cymru – beth nesaf?

Ymlaen >
erthygl-ebrill-2019-1960-893

‘Gwyn Hughes Jones ar binacl ei yrfa’