Thema dywyll Thema golau

Maes chwarae diamddiffyn cefn gwlad

erthygl-ebrill-2020-2061-990 erthygl-ebrill-2020-2061-990
Dydd Sadwrn braf oedd hi, drannoeth y penderfyniad i gau tafarndai a bwytai Cymru. Ond roedd Gwynedd ar agor o hyd, mae’n rhaid, oherwydd mi ges i wybod trwy alwad ffôn fod yna ‘gannoedd o geir wedi bod ar draeth Morfa Bychan heddiw’. Gallwn weld ar y teledu fod cannoedd hefyd wedi parcio wrth droed yr Wyddfa, ac at hynny roedd y siopau’n llawn ymwelwyr. Erbyn imi fynd am sbin i draeth Morfa i gael golwg fy hun, roedd hi’n hwyrhau brynhawn Sul, ond roedd 62 o foduron yno o hyd. Cyfrifais hwy’n stribedyn ar hyd y traeth: ceir bach efo teuluoedd yn eistedd ar eu pennau, motor homes a phawb yn llowcio hufen iâ, Range Rovers a ffrindiau’n chwerthin ac yn chwarae pêl. Daeth ci a neidio arnaf. Gofynnais i’r teulu gymryd mwy o ofal. Dywedodd y tad wrthyf am siarad Saesneg. Diwrnod arferol arall felly ar lan y môr yn Eifionydd. ‘Stay at home to stay safe’, meddai Boris Johnson. Ond mae’n amlwg nad yw rheolau felly’n cyfrif yng nghefn gwlad Cymru. Maes chwarae anferth ydym ni, a naw wfft i iechyd pobl leol. Mi fydd Cymru’n wynebu dyddiau gyda’r anoddaf yn ei hanes gyda’r coronafirws. Mae ein poblogaeth yn hen, yn dlawd ac yn ôl-ddiwydiannol (ac felly â graddfa uchel o salwch hirdymor), ac mae ein gwasanaeth iechyd yn gwegian ers blynyddoedd. Mae poblogaeth yr ardaloedd twristaidd glan môr yn hynod oedrannus. Synnwn i ddim pe bai hanner pobl Morfa Bychan dros eu trigain. Roedd angen gweithredu llym, di-oed er mwyn gwarchod pobl leol. Ni fydd rhwystro twristiaeth yn ddigon i atal lledaeniad yr aflwydd. Mae Covid-19 yn cylchdroi ymhlith Cymry yng Ngwynedd ers sawl wythnos, a bu o leiaf un farwolaeth yma. Gall synio am yr haint fel firws ymwelwyr ein dallu i’r ffaith ei fod yma eisoes. Ond pa synnwyr fu mewn gwaethygu pethau drwy ganiatáu i filoedd ddod am sbri o’r dinasoedd gan gario dos newydd o’r haint i bob cwr o’r Gymru wledig? Bu i’r firws ledu i gefn gwlad Tsieina wedi i deithwyr o Wuhan fynd yno i ddathlu’r Flwyddyn Newydd Tsieinïaidd. Yn yr Eidal, bu i drigolion y gogledd gario’r haint i’r de. Hwyrach y bu i drybini cefn gwlad fod yn rhan fechan o benderfyniad hwyrfrydig Boris Johnson i gael lockdown. Ac nid Llundain yn unig oedd yn araf deg. O ran ei hawydd i weld gêm rygbi Cymru yn erbyn yr Alban yn mynd yn ei blaen, ac anallu truenus i weithredu mewn da bryd i gau meysydd carafanio a gwersylla, bu Llywodraeth Cymru yn hynod anghyfrifol hefyd. Llym fydd y feirniadaeth yn yr Ymchwiliad Cyhoeddus anochel.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Y coronafirws: i ble nesaf?

Ymlaen >
erthygl-ebrill-2020-2062-991

Mewn cwarantîn yn Oslo