Thema dywyll Thema golau

Mamau ‘anfamol’ – drama newydd Rhiannon Boyle

erthygl-hydref-2021-2275-1174 erthygl-hydref-2021-2275-1174
Ar brynhawn dydd Gwener ym mis Medi, ac ar ddiwedd diwrnod o ymarferion drama newydd sbon Rhiannon Boyle, Anfamol, bues i’n ffodus iawn i gael gair efo’r dramodydd dros Zoom. Roedd hithau’n llawn brwdfrydedd wrth drafod y ddrama gyntaf o’i heiddo i gael ei chyflwyno’n broffesiynol yn Gymraeg. ‘Dwi’n teimlo’n emosiynol,’ medd Rhiannon, wrth gloriannu ei hymateb i’r diwrnod hwnnw, sef y tro cyntaf i’r Theatr Genedlaethol redeg drwy’r ddrama ar ei hyd. Roedd hi dan deimlad oherwydd ‘pwnc y ddrama’, sy’n plethu’r dwys a’r digri, oherwydd y profiad o weld ei gwaith creadigol yn dod yn fyw o’i blaen, ac oherwydd ei bod hi’n dychmygu ‘mai’r cynhyrchiad yma fydd y tro cynta i lot o’r gynulleidfa ddod i’r theatr ar ôl Covid’. Yn ddiddorol ddigon, bydd cynulleidfaoedd yn cael eu tywys yn ôl i 2020, i ganol gwae a dychryn cyfnod cyntaf y pandemig, wrth iddyn nhw wylio Anfamol, sef drama am Ani, dynes sengl, ddeugain oed sy’n penderfynu cael babi ar ei phen ei hun drwy ddefnyddio sperm bank.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-hydref-2021-2274-1173

Rhwng hiraeth a gobaith – holi Tecwyn Ifan

Ymlaen >
erthygl-hydref-2021-2276-1175

Cofio Charli Britton