Thema dywyll Thema golau

Man gwyn man draw – tybed?

erthygl-medi-2020-2139-1043 erthygl-medi-2020-2139-1043
Nid pawb gafodd gyfnod clo wrth eu boddau, wrth reswm, ond o’m rhan fy hun teimlaf fod y profiad wedi fy ngwneud i’n fwy bodlon fy myd, yn llai aflonydd ac yn fwy gwerthfawrogol o’m cynefin. Yn hytrach na theimlo’n rhwystredig o fethu â chrwydro, bodlonais ar gymowta o fewn fy milltir sgwâr. Dechreuais ddringo elltydd a arferai wneud i’m brest asmatig nogio, ac erbyn hyn dwi’n ei chael hi braidd yn ddiflas mynd am dro ar dir hollol fflat. Yna dechreuais feicio am y tro cyntaf ers blynyddoedd, cyn penderfynu prynu beic trydan (fel sawl cyfeilles leol arall). Bydd y snobs ‘beics go iawn’ yn siŵr o wfftio, ond naw wfft iddynt hwythau, yn enwedig o ystyried bryniau serth Dyffryn Ceiriog a’r cyffiniau (a dwi’n dal i orfod pedlo, dalltwch, ac yn diffodd y batri pan nad oes mo’i angen). Roedd ambell glais a chrafiad a gefais wrth ymgyfarwyddo â’r NCM Moscow (beic mynydd Almaenig er gwaetha’i enw) yn werth y wefr o beltio mynd am filltiroedd, gan hedfan yn rhwydd i fyny’r llethrau.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-medi-2020-2138-1042

Epynt, Covid a mwy

Ymlaen >
erthygl-medi-2020-2141-1044

Cwmni yn y cyfnod clo