Thema dywyll Thema golau

Mandela – Yr Hen Wr a Ailadeiladodd Genedl

Y gobaith oedd y byddai’r byd yn anghofio Mandela. Ac yn sicr, yn 1966, Verwoerd a gipiodd y penawdau pan lofruddiwyd ef yn y Senedd-dy. Ond ni newidiodd y drefn. Wynebai’r mudiadau gwrth-apartheid yn y wlad a thu hwnt dalcen caled a brwydr faith: roedd banciau a gwladwriaethau yn masnachu â De Affrica ar waethaf sancsiynau; roedd blaenoriaethau gwleidyddol eraill yn gyson yn hawlio sylw ac yn gwthio’r achos i’r cyrion; ac yr oedd Mandela dan glo. I ymgyrchwyr y blynyddoedd hynny, cyn i’r momentwm gynyddu ac i’r llanw ddechrau troi, pethau prin oedd symbolau’r frwydr – gwrthod prynu orennau De Affrica; boicotio Barclays; Côr y Jonesiaid a tharfu ar y Springboks. A thrwy’r cyfan, yr un llun digyfnewid hwnnw o Nelson Mandela yn ifanc. Y blynyddoedd yn treiglo, a’r ddelwedd yn aros yn un.

Ond newid wnaeth pethau; a gallai rhywun feddwl, pan ddaeth awr rhyddhau Mandela, ei fod wedi cyrraedd pinacl buddugoliaethus wedi blynyddoedd o ddioddef. Pan gerddodd allan o’r carchar yn 1990, gallai’r byd o’r diwedd weld y ddelwedd newydd. Gweld hen wr. Mewn byd a oedd bellach ag obsesiwn am ieuenctid, mor hawdd y gallasai fod wedi cilio’n urddasol – wedi dod yn ben gwladwriaeth mewn enw yn unig, efallai, fel gwobr, tra oedd y gwleidyddion yn bwrw ymlaen â’r gwaith go-iawn. Y gwaith go-iawn oedd adeiladu cenedl o’r newydd, a dyna’r gwaith yr ymdaflodd Mandela iddo, ac yntau’n arlywydd mewn llawer mwy nag enw. Tasg enfawr i unrhyw un, ac yr oedd gwneud hynny heb i waddol y blynyddoedd blin droi’n chwerwder difaol yn dasg fwy enfawr byth. Roedd y trosiad o fod yn eicon mewn cell i fod yn wladweinydd ymarferol yn anodd. Roedd i’r gwladweinydd hwnnw ddod yn ffigwr rhyngwladol ei barch a’i statws yn ymylu ar wyrth. Bu De Affrica yn ffodus yn ei gwleidydd – nid yn Verwoerd, a fu farw yn ei waed ar lawr y Senedd-dy, ond yn Nelson Mandela a fu farw’n hynafgwr yn ei wely.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Y Pridd a'r Concrid

Ymlaen >

Refferendwm Rhif 4? – Gallai Ddod Yn Gynt Na’r Disgwyl