Thema dywyll Thema golau

Mark Drakeford – y ffefryn i olynu Carwyn?

erthygl-chwefror-2018-1845-745 erthygl-chwefror-2018-1845-745
Mae awdurdod gwleidyddol yn ffenomen lithrig a lledrithiol, hyd yn oed. Ac nid Theresa May ydi’r unig Brif Weinidog yn yr ynysoedd hyn sydd wedi colli awdurdod yn ddiweddar. Gwta dri mis wedi i Aelod Cynulliad Alyn a Dyfrdwy, Carl Sargeant, gyflawni hunanladdiad, pwy all wadu na fu lleihad dramatig yn awdurdod Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones? Nid yw ei elynion yn poeni dim erbyn hyn am ddatgan eu dirmyg tuag ato’n gyhoeddus. Clywir llifeiriant cyson o feirniadaeth a gwawd, a’r rhan fwyaf ohono’n dod o gyfeiriad aelodau neu gefnogwyr ei blaid ei hun. Mae peth o’r iaith a ddefnyddir ar y cyfryngau cymdeithasol yn hyll. Yn y gorffennol byddai’r awdurdod a berthynai i Carwyn Jones wedi arwain at bwyllo neu bwyso geiriau’n ofalus. Bellach, fodd bynnag, yn deg neu beidio, fe’i cyhuddir o fod yn wan, yn gelwyddgi neu hyd yn oed yn ŵr a chanddo waed ar ei ddwylo…

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-chwefror-2018-1844-744

CBAC – penodi Prif Weithredwr di-Gymraeg

Ymlaen >
erthygl-chwefror-2018-1847-746

Diwrnod hanesyddol yn Barcelona