Thema dywyll Thema golau

Martin Luther King

erthygl-mai-2018-1879-772 erthygl-mai-2018-1879-772
Dangosodd y teyrngedau lu a dalwyd i Martin Luther King bum degawd ar ôl ei lofruddiaeth ym Memphis Tennessee mor fawr yw’r parch o hyd i’w goffadwriaeth. Bu ei gyfraniad i’r frwydr dros hawliau sifil yn ystod ei oes fer (1929-1968) yn aruthrol. Amddifadodd ei lofrudd y byd o arweinydd a fyddai wedi parhau i wneud cyfraniad am ddegawdau i ddod. Tystiolaeth o’i fawredd yw bod ei ddylanwad yn ysbrydoli hyd heddiw. Cefais y fraint enfawr o’i gyfarfod. Yn 1965 es yn weinidog am flwyddyn i Eglwys Gymraeg Detroit − dipyn o newid i hogyn o Langwyllog yng nghanol Ynys Môn. Gwyddwn cyn mynd, wrth gwrs, am yr ymgyrch hawliau sifil yn yr Unol Daleithiau ac am y rhan flaenllaw a chwaraeai Martin Luther King ynddi. Fe fûm yn ffodus i gael cyfle i wrando arno’n pregethu mewn gwasanaeth a drefnwyd gan Gyngor Eglwysi Detroit yn ystod Grawys 1966. Fel pob un arall o weinidogion Detroit, cefais wahoddiad i’r oedfa. Gwnaeth argraff annileadwy arnaf fel pregethwr.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-mai-2018-1877-771

Ailystyried Caersallog

Ymlaen >

Cip ar weddill rhifyn mis Mehefin