Thema dywyll Thema golau

Materion y Mis – Bwyell Williams yn Sbaddu Llywodraeth Leol

Fy mhroblem i yw bod yn ddiduedd wrth ystyried yr argymhelliad y dylai Cyngor Môn gael ei lyncu gan glagwydd Gwynedd. Dwi’n gwybod nad yw Ceredigion eisiau cael ei chlymu wrth Benfro. Gwn hefyd bod terfynu annibyniaeth Caerffili a Merthyr, a chorlannu Casnewydd efo Mynwy, yn gwneud synnwyr llwyr. Ond pawb â’i fys lle bo’i ddolur. Dwi’n caru Ynys Môn a’i phobol. Dwi’n ymfalchïo mai Monwysyn ydw i. Felly, i mi mae’r argymhelliad y dylid uno Môn a Gwynedd yn mynd yn groes i’r graen. Geilw am ddadansoddi gofalus. Felly dyma fentro!

Trwy argymell uno cynghorau yn hytrach na dilyn y llwybr arferol o ofyn i’r Comisiwn Ffiniau gynnal adolygiad ffiniau, mae’r Llywodraeth yn arbed amser ac arian. Ond maen nhw hefyd yn tanseilio democratiaeth. Mi fyddai’r Comisiwn Ffiniau wedi gorfod cynnal cyfarfodydd cyhoeddus i glywed barn yr etholwyr.

Yn wir, os oedd angen Refferendwm yn 1997 i sancteiddio sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol ac un arall yn 2011 i hwyluso ymestyn ei phwerau, oni ellir dadlau y dylai etholwyr/trethdalwyr Cymru (gan gynnwys Môn) gael yr hawl i fwrw pleidlais ar ffiniau llywodraethol leol?

Mae adroddiad ar fin cael ei gyhoeddi sy’n cloriannu’r broses ymyrryd ddrudfawr a weithredwyd, hyd yn ddiweddar iawn, gan Lywodraeth Cymru i geisio cael trefn ar Gyngor Môn. Ond os ydi Cyngor Môn yn mynd i ddiflannu, beth oedd diben ymyrraeth gostus ddychrynllyd o’r fath?

Prif ddadl Williams dros gael llai o gynghorau yw bod hynny’n mynd i fod yn llai costus. Llai costus? Faint yn llai felly? Mae’r adroddiad yn methu (neu’n gwrthod) dweud. Ynghudd ym mol yr adroddiad mae brawddeg sy’n gollwng y gath o’r cwd ac yn tanseilio holl ymdrechion llafurus Syr Paul Williams i gyfiawnhau cynghorau mawr: ‘A full costing is beyond our remit’. Wel am sylw truenus! Cop out os bu un erioed!

Sut mae Williams, gwr fu’n bennaeth y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, yn meiddio dadlau fod y newid arfaethedig yn mynd i arbed arian heb geisio cyfiawnhau’r fath honiad ysgubol? Onid honno oedd y ddadl dros greu Byrddau Iechyd methiannus megis Betsi Cadwaladr? Oes angen dweud rhagor?

Os ydi unedau mwy yn costio llai sut gebyst mae’r dreth yng Ngwynedd Fawr yn uwch na threth Cyngor Môn? Oedd, roedd gwendidau erchyll yn y modd roedd Cyngor Môn yn cael ei reoli cyn mis Mai’r llynedd. Ac mae gwendidau gwleidyddol o hyd yn y ffordd mae’r cyngor yn cael ei arwain.

Ond bellach mae’r egwyddor o lywodraeth leol yn cael ei herydu a’r arferiad o weinyddu lleol yn ei disodli. Cyn bo hir Llywodraeth Cymru fydd yn rheoli ein holl wasanaethau cyhoeddus. Ai cyfnewid un gyfundrefn ganolog yn Llundain am gyfundrefn fwy canolog fyth yng Nghaerdydd fu gwir ganlyniad datganoli?

 

 


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Cwrs y Byd - Kitchener a Brynsiencyn

Ymlaen >

Cyfrinachau’r mynyddoedd - Gwaith Lisa Eurgain Taylor