Thema dywyll Thema golau

Materion y Mis – Pwyll, Weinidog Addysg, Pwyll

Roedd yr ymateb yn rhagweladwy danllyd. Ond mae’n werth ystyried sut y daethom ni i’r fan hon. Ys dywed Leighton Andrews: ‘fyddai neb yn ei lawn bwyll wedi creu 22 awdurdod lleol; ond dyna wnaeth John Redwood’ (Ysgrifennydd Cymru ar y pryd). Ac mae consensws cyffredinol bellach mai cam gwag oedd hyn. Golygodd fod adnoddau awdurdodau bychain yn annigonol; collodd nifer ohonynt arbenigedd hanfodol ac mae’r strwythur yn wastraffus o ran adnoddau.

Canlyniad adolygiad blaenorol (‘Adolygiad Viv Thomas’) oedd creu pedwar ‘consortiwm’ i ddarparu gwasanaethau gwella ysgolion ar ran 22 awdurdod addysg. Proses o gydweithio a rhannu adnoddau ac arbenigedd er gwella ansawdd a natur y gefnogaeth i ysgolion oedd y nod. Roedd y cyfrifoldeb statudol am safonau addysg, a’r atebolrwydd, yn aros gyda’r awdurdodau unigol.

Bu’r broses o greu’r endidau yma yn hir ac yn lled boenus ar lawer golwg, yn enwedig i rai aelodau o staff yr awdurdodau unigol.

Ym mis Medi 2012 y dechreuodd y consortia ar eu gwaith yn swyddogol - gwta dri mis yn ôl felly. Dyna paham, efallai, fod ymateb awdurdodau lleol i gyhoeddiad Leighton Andrews ei fod am gynnal adolygiad pellach mor chwyrn; doedd dim digon o amser wedi bod i farnu llwyddiant neu fethiant y system newydd; roedd yn gynamserol felly i ddatgan diffyg ffydd a phrysuro i gynnal adolygiad pellach, meddid.

Ond er mai ym mis Medi 2012 yr oedd y consortia yn swyddogol yn dechrau ar eu gwaith, roedd cryn dipyn o ymwneud â nhw wedi digwydd ymhell cyn mis Medi. Ac roedd yn drawiadol cymaint o bryder oedd ymhlith penaethiaid ysgolion, yn arbennig yngl?n â’r system newydd a’i gallu i gynnig yr hyn a addawyd. Mae’r ffaith fod y cyfrifoldeb statudol am safonau addysg wedi aros gyda’r 22 awdurdod unigol yn achosi cryn densiwn hefyd. Nid problemau tri mis oed mo’r rhain.

Ond ai diddymu rôl awdurdodau lleol yn llwyr, a gwaredu atebolrwydd lleol, yw’r ateb? Nage, fyddwn i’n dadlau. Hwn yw’r awgrym mwyaf dramatig yn natganiad y Gweinidog Addysg. Ond nid hwn yw’r unig un. Mae strwythur rhanbarthol mwy grymus yn opsiwn; hefyd ad-drefnu mwy ffurfiol. Mae’n bwysig cofio hefyd y byddai gofyn am ddeddfwriaeth i weithredu rhai o’r opsiynau yma; ac nid dros nos mae hynny’n digwydd.
Felly, problemau sy’n llawer h?n na thri mis; datrysiadau posib allai gymryd yn sylweddol hirach i’w gweithredu. Beth am y dyddiau a’r misoedd nesaf felly? Cydweithio a chyd-dynnu i wella a chryfhau? Cawn weld…

…………………………

Anna Brychan yw Cyfarwyddwr NAHT Cymru.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Annwn ac yn ôl - Gwaith Iwan Ap Huw Morgan

Ymlaen >

Ar Y Groesffordd - Dyfodol Datganoli