Thema dywyll Thema golau

Meddwl ddwywaith cyn cerdded adref

erthygl-tachwedd-2021-2286-1182 erthygl-tachwedd-2021-2286-1182
Mae dros ddeufis wedi mynd heibio ers dedfrydu’r llofrudd Wayne Cozens i garchar am oes am gipio, treisio a lladd Sarah Everard yn Llundain. Dim ond cerdded adref oedd hi (#shewasjustwalkinghome) pan ataliwyd hi gan y plisman 48 oed a fanteisiodd ar ei swydd fel gwarchodwr y drefn gyhoeddus i’w gorfodi i mewn i’w gar, ei chaethiwo mewn cyffion, ac yna ei gyrru am ddegau o filltiroedd cyn ymosod yn rhywiol arni a rhoi terfyn ar ei bywyd ifanc. Yn rhinwedd fy ngwaith fel gohebydd fe fûm yn bresennol yn ystod y tri degawd diwethaf mewn sawl achos yn Llysoedd y Goron ar hyd y de pan ddedfrydwyd llofruddion i garchar – yn ddynion a menywod. Mewn gwahanol wrandawiadau roedd tystiolaeth o gynnau tân yn fwriadol mewn cartref, saethu neu drywanu gyda chyllell, taflu cymar i waelod ffwrnais danbaid hyd yn oed. Roedden nhw i gyd yn droseddau erchyll. Ond eto gallaf ddweud i sicrwydd na phrofais erioed y fath ymateb ymhlith cydnabod benywaidd â’r hyn a fu i farwolaeth Sarah Everard.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-tachwedd-2021-2285-1181

Y Ffordd Gymreig – neoryddfrydiaeth a datganoli

Ymlaen >
erthygl-tachwedd-2021-2287-1183

Ystof ac anwe – celfyddyd y garthen