Thema dywyll Thema golau

Meithrin doniau – arddangosfa cyntaf BÔN

Aelodau grŵp Bôn Aelodau grŵp Bôn
Bôn yn ystod agoriad swyddogol yr arddangosfa: Sioned Mair, Tem Casey, Kiowa Casey, Iwan Lloyd Roberts, Zoe Lewthwaite, Elin Gruffydd, Sioned Medi Evans, Ella Louise Jones, Catrin Williams, Billy Bagilhole, Chris Higson, Anna Higson

Mae hi’n ddiwrnod braf o Fai ac mae gerddi’r tai rydw i’n eu pasio i gyrraedd Plas Glyn-y-Weddw, Llanbedrog, ar eu gorau. Y tu mewn mae gwledd weledol arall yn fy aros – gwaith 11 o artistiaid o Lŷn. Mae’r cyfryngau’n amrywio – mae yma baentiadau, ffotograffiaeth, tecstiliau, ambell gerflun a mwy. Mae yma amrywiaeth hefyd o ran pwnc a thema. Dacw chwaraewr rygbi’n cael ei daclo gan ddiafol. Dacw fwrdd cegin cartrefol a’r lliain sydd drosto’n blastar o ryseitiau wedi’u teipio a nodiadau mewn llawysgrifen wedi’u hychwanegu atynt. Dacw deulu (tybed?) o Gymry a’u Cymreictod fel pe bai hanner ffordd rhwng bod yn destun balchder a bod yn fwrn arnynt (teitl y llun, fel cerdd Parry-Williams am Gymru, yw ‘Hon’). Dacw geffylau hardd, a chariad a pharch yr artist atynt yn amlwg ym mhob strôc brwsh. A dacw wlân yn cael ei ddefnyddio ar un wal mewn ffordd iwtilitaraidd fodern, ac ar wal arall mewn ffordd gynnes a chwareus. Gyda’i gilydd, mae’r gwaith yn tystio i lond penrhyn o ddawn a dychymyg. 

Dyma ‘BÔN’ – arddangosfa gyntaf grŵp newydd o artistiaid o’r un enw a sefydlwyd ddwy flynedd yn ôl gan Catrin Williams, yr artist o Bwllheli.

< Yn ôl
Aelodau band 'Kneecap'

Kneecap yn taro’r penawdau rhyngwladol

Ymlaen >
Llyfr y Flwyddyn 2025 - Rhestr Fer categorïau oedolion

Cydbwysedd ac is-destun – rhestr fer Llyfr y Flwyddyn