Thema dywyll Thema golau

Melltith y gwleidydd

erthygl-rhagfyr-2019-i-ionawr-2020-2024-956 erthygl-rhagfyr-2019-i-ionawr-2020-2024-956
Yr wyf am fynd â chi’n ôl i ddechrau Tachwedd, pan gyhoeddodd Boris Johnson y cynhelid etholiad cyffredinol nad oes raid wrtho ar 12 Rhagfyr. Gallasai fod wedi mynd â’i fesur seneddol i adael yr Undeb Ewropeaidd drwy Dŷ’r Cyffredin yn weddol rwydd petai wedi gosod amserlen resymol i’w drafod. Tua’r un pryd gwisgodd y Prif Weinidog boldew blêr di-glem ag ydyw grys rygbi’i wlad (a’i wisgo dros ei grys a’i dei arferol, os gwelwch yn dda) i arddangos ei sicrwydd y byddai Lloegr yn ennill ffeinal Cwpan Rygbi’r Byd yn Japan. Os do fe! Fe gythruddodd yr act honno – ac act oedd hi, fel popeth a wna Boris – hyd yn oed rai o gefnogwyr selocaf y Saeson, y cyn-fachwr rhyngwladol Brian Moore er enghraifft, a’i rhoes hi’n ddidrugaredd iddo am fod mor annoeth â datgan yn ei grys gwyn na allai dim sefyll yn ffordd tîm Eddie Jones ar ôl iddo goncro’r Crysau Duon yr wythnos gynt. Mewn chwaraeon, weithiau, nid oes dim mwy melltigedig na chefnogaeth gwleidydd.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-rhagfyr-2019-i-ionawr-2020-2023-961

Parch i’r Plygain

Ymlaen >
erthygl-rhagfyr-2019-i-ionawr-2020-2026-957

Mynydd eira