Thema dywyll Thema golau

Merched yn eu geiriau eu hunain

Llawysgrif yn cynnwys Cywydd y Gont, Gwerful Mechain Llawysgrif yn cynnwys Cywydd y Gont, Gwerful Mechain
Yn neunydd hysbysebu a thaflen yr arddangosfa ‘Medieval Women: In Their Own Words’, a agorodd yn y Llyfrgell Brydeinig ganol Hydref, mae’r curaduron yn datgan bod y gweithiau ysgrifenedig gan ferched a welir ynddi yn ‘dweud hanes merched canoloesol, yn eu geiriau eu hunain’. Ac yn sicr mae yma ddeunydd, a lleisiau, sy’n cyfrannu llawer at ein dealltwriaeth o fywydau merched y cyfnod, ond nid yw’r disgrifiad yn cyfleu hanner y cyfoeth sydd i’w weld yn yr arddangosfa syfrdanol a chyfareddol hon. Ar ddechrau’r arddangosfa, gwelwn ddetholiad o lawysgrifau sy’n tynnu’r themâu sydd i ddod at ei gilydd. Mae yma lyfrau a gweithiau gan enwau mawr: Hildegard o Bingen, oedd yn lleian, cyfansoddwr ac ysgolor; a Christine de Pizan, yr awdur proffesiynol cyntaf o Ffrainc. A dyna sefydlu dwy thema bwysig – merched fel awduron, a merched a chrefydd, o’r cychwyn. Ond cyferbynnir y rhain â gweithiau llai adnabyddus, er enghraifft, llythyr gan Alice Crane – sy’n anhysbys ar wahân i’r llythyr – at ei ffrind agos Margaret Paston. Dyma ferched yn byw bywyd bob dydd.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
Anne May a gardd Parc yr Esgob

Yr ardd ddirgel

Ymlaen >
Edward Owen, Penrhos, Hunanbortread, 1732

Arddangosfa sy’n chwalu myth