Perthyn i’r Blaid Lafur mae o. Roedd o’n aelod o Fianna Fáil am gyfnod byr cyn troi at Lafur. Rhaid cofio bod y Blaid Lafur yn Iwerddon yn wahanol i’r Blaid Lafur yng Nghymru a Lloegr. Yn fras, plaid ddosbarth canol gydag elfen reit adain chwith – plaid athrawon ac ati – ydi Llafur yma. Nid plaid y werin mohoni. Fianna Fáil (hyd at ei thranc diweddar, beth bynnag) yw honno. Wedi dweud hynny, o gefndir gwerinol tlawd y daw Michael D, ac mae ei blentyndod anodd yn nghyni’r Gorllewin yn bwysig i’w feddylfryd a’i wleidyddiaeth. Fe’i ganed yn Limerick, yn un o bedwar o blant. Ymladdodd John ei dad, ynghyd â’i frodyr yntau, yn Rhyfel Annibyniaeth Iwerddon; dioddefodd broblemau iechyd trwy gydol ei fywyd yn ogystal â rhai’n ymwneud ag alcohol. Gwnâi hynny hi’n anodd iddo ennill bywoliaeth. Bu’n rhaid i Michael D a’i frawd – y naill yn bump oed, y llall yn bedair – fynd i fyw gydag ewythr a modryb ar eu fferm yn Clare. Daeth gweddill y teulu atynt ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach ond roedd bywyd yn anodd. Mae Michael D wedi sgwennu am y noson y bu farw’r fuwch olaf ar y fferm. Rhaid wedyn oedd dibynnu ar gymdogion am lefrith. Ar ôl dod allan o’r ysbyty bu farw ei dad, a hynny yn y tloty yn Ennis. Mewn cerdd o’r enw ‘Betrayal’ mae Michael D wedi sgwennu am ei deimlad o euogrwydd wrth adael i’w dad fynd i’r tloty. Ond mae’r brad yn y teitl yn cyfeirio hefyd at dynged hen Weriniaethwyr fel ei dad. Nhw oedd wedi ymladd dros annibyniaeth. Ac yna, meddai Michael D, roedden nhw wedi cael eu hanghofio a’u bradychu gan ‘bobl a ysbeiliodd eu breuddwyd o Iwerddon rydd’. Un o themâu Michael D yn ei ymgyrch oedd yr angen i greu ‘gwir Weriniaeth’ – hynny ydi, dychwelyd at y ddelfryd wreiddiol o wladwriaeth sy’n cynrychioli buddiannau’r bobl ac yn gofalu am ei phobl i gyd. (Mae ’na dipyn o gwffio dros berchnogaeth y term ‘Gweriniaethol’ yn Iwerddon. Mae’r pleidiau eraill, a phobl sydd ddim yn perthyn i unrhyw blaid, yn anghytuno efo’r ffordd y mae Sinn Fein wedi meddiannu’r term. Rydym i gyd yn Weriniaethwyr, dadleuant.)
Bu Michael D yn rhan o wead gwleidyddol a diwylliannol y wlad ers degawdau. Bu’n Aelod Seneddol, neu TD, Llafur dros Orllewin Galway ers yr 1980au cynnar. Cyn hynny bu’n ddarlithydd cymdeithaseg ym mhrifysgol Galway. Mae’n siarad y Wyddeleg yn rhugl (yr unig un o’r ymgeiswyr arlywyddol i allu gwneud hynny). Bu’n Weinidog dros y Celfyddydau a’r Gaeltacht yn y 1990au ac, yn rhinwedd y swydd honno, y fo oedd yn gyfrifol am sefydlu TG4 – y Gwasanaeth teledu yn y Wyddeleg, ac am adfywio’r Bwrdd Ffilmiau Gwyddelig. Bu’n gyfrifol am gynyddu buddsoddiad mewn theatrau bach ledled y wlad, ac mewn amgueddfeydd. Bu’n weithgar hefyd fel ymgyrchydd dros hawliau merched, dros atal cenhedlu, dros ysgariad, a thros hawliau dynol mewn gwledydd fel Chile, De Affrica a Nicaragwa. Ac mae o’n fardd.
Mae’r dychanwyr wedi cael hwyl dros y blynyddoedd gyda’r ddelwedd hon o Michael D, neu Michael Twee fel roedden nhw’n ei alw. Dyn bach tanbaid, dipyn yn fawreddog, yn areithio’n flodeuog am wledydd pell neu’n barddoni yn y cymylau. Ond roedd ’na wastad anwyldeb ynghlwm â’r dychan. Doedd dim amheuaeth ei fod o’n ddidwyll ac yn gyfan gwbl o ddifri. Y prif bryder ynglyn â Michael D yn ystod yr ymgyrch oedd ei fod o’n rhy hen. Yn 70 oed, fo oedd yr hynaf o’r saith ymgeisydd. Edrychai dipyn yn fregus am ei fod o’n gloff – canlyniad damwain ddwy flynedd yn ôl. Ac roedd Sean Gallagher – 49 oed a’r ymgeisydd ieuengaf yn y ras – yn ddigon parod i bwysleisio’r gwrthgyferbyniad rhyngddynt drwy ddangos i’r camerâu ei sgiliau fel arbenigwr jiwdo a’i allu i sgipio rhaff.
Ac fel y digwyddodd pethau, bu bron iawn i Gallagher lorio Michael D. Ar ddechrau’r ras, Michael D oedd y ceffyl blaen. Doedd neb yn talu fawr o sylw ar y cychwyn i Sean Gallagher, ymgeisydd annibynnol a gwr busnes a oedd wedi ymddangos ar Dragon’s Den. Ond dechreuodd ennill tir yn y polau piniwn. Gydag wythnos i fynd, syfrdanwyd pawb pan neidiodd Gallagher ar y blaen. Dridiau cyn yr etholiad roedd Gallagher 15% ar y blaen i Michael D.
Roedd neges syml Gallagher o bositifrwydd, menter a busnes – a chreu swyddi – yn apelio. Ymddangosai Gallagher yn ffres a newydd, ac roedd yr etholwyr yn ysu am rywun gwahanol. Mae etholiadau Arlywyddol y gorffennol wedi dangos nad yw’r etholwyr eisiau gwleidydd traddodiadol fel Arlywydd. Hefyd bu Gallagher yn weithgar yn Fianna Fáil yn y gorffennol – ac roedd cefnogwyr FF, heb ’run ymgeisydd o’u plaid eu hunain, yn troi ato fo. Roedd Gallagher ar ei ffordd i’r Aras.
Ond ddeuddydd cyn yr etholiad daeth daeargryn arall – yn fyw ar y rhaglen deledu Frontline ar RTE. Dyma’r ddadl olaf cyn yr etholiad. Atebai’r saith ymgeisydd gwestiynau gerbron cynulleidfa. Wrth iddo fynd ar y blaen yn y polau piniwn, roedd pobl wedi dechrau gofyn cwestiynau ynglyn â diddordebau busnes Gallagher, a’i rôl mewn cinio i godi arian i FF y llynedd. Pa mor ‘Annibynnol’ oedd o mewn gwirionedd? A rwan, gyda bron i filiwn o bobl yn gwylio’n fyw, daeth y trobwynt mwyaf dramatig a welais i erioed mewn etholiad. Martin McGuinness daniodd yr ergyd. Trodd at Gallagher, a dweud ei fod wedi cael galwad gan wr busnes oedd yn honni bod Gallagher wedi cymryd siec am 5,000€ ganddo am gael mynd i’r cinio a chael tynnu ei lun efo’r Taoiseach, Brian Cowen. Gwadodd Gallagher hyn. Dywedodd nad oedd o’n adnabod y dyn. Yna dywedodd nad oedd o’n cofio. Dywedodd wedyn mai smyglwr olew oedd y dyn a bod ganddo gysylltiadau â Sinn Fein. Yna dywedodd ei fod – o bosib – wedi cymryd amlen gan y dyn. Chwarddodd y gynulleidfa yn y stiwdio. A dyna ddiwedd Sean Gallagher. Yn yr Iwerddon sydd ohoni, mae’r gair ‘amlen’, yng nghyd-destun pobl busnes a chodi arian at Fianna Fáil, yn ffrwydrol. Gydag un strôc, dinistriodd McGuinness obeithion Gallagher, ac achubodd Michael D. Yn ei araith fuddugol fe ddywedodd Michael D fod yr etholwyr wedi wynebu dewis yn yr etholiad rhwng dwy fersiwn o Iwerddon. Yn y diwedd roedden nhw wedi cefnu ar werthoedd hunanol, materol a gwag y Teigr Celtaidd ac wedi dewis fersiwn arall o Iwerddon – fersiwn lle mae delfrydau, cymdeithas, iaith a diwylliant yn bwysig. A dyna, meddai fo, ydi’r math o Iwerddon y mae o am ei hyrwyddo.
Drannoeth yr araith honno, dwi’n falch o ddweud fy mod i wedi cael y cyfle i longyfarch yr Arlywydd Michael D. Higgins yn y Gymraeg.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru

