Thema dywyll Thema golau

Mr Jones a fi

erthygl-mawrth-2020-2054-984 erthygl-mawrth-2020-2054-984
Un o’r sawl Gareth Jones imi ddod yn ymwybodol ohonynt erioed – er ei fod cyn fy amser i – oedd y newyddiadurwr o’r Barri sy’n destun y ffilm Mr. Jones a ryddhawyd yn ddiweddar. Mae’r ffilm yn adrodd hanes hynod o bwysig a diddorol am Gymro sydd heb gael hanner digon o sylw am ddatgelu’r caswir am Holodomor yr Wcráin yn 1932–3. Ystyr Holodomor ydi ‘lladd trwy newyn’, sef yr hyn a ddigwyddodd i filiynau o Wcraniaid o dan unbennaeth Stalin, ac a gyfleir yn gignoeth yn y ffilm gan y gyfarwyddwraig Bwylaidd Agnieszka Holland, gyda’r dawnus olygus James Norton yn y brif ran. Mae’r hanes o ddiddordeb arbennig i mi gan imi ennill Ysgoloriaeth Deithio Goffa Gareth Jones yn 1990, heb wybod odid ddim amdano ar y pryd ar wahân i’r ffaith ei fod wedi graddio mewn Ffrangeg o Brifysgol Aberystwyth ac wedi marw ‘dan law ysbeilwyr’ ym Mongolia Fewnol ar 12 Awst, 1935 – ddiwrnod cyn ei ben-blwydd yn 30.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-mawrth-2020-2053-983

Creadigrwydd yr alltud

Ymlaen >

Cip ar weddill rhifyn Mawrth