Thema dywyll Thema golau

Mudiad Dirwest Iwerddon


Pan ddaeth Barack Obama i Iwerddon yr haf diwethaf, roedd yn rhaid i’r Arlywydd fynd i bentref bach Moneygall yn swydd Offaly i weld ei gefnder Henry – ac i gael tynnu ei lun yn yfed peint o Guinness yn y dafarn leol. Yn wir mae’n rhaid i bob ymwelydd amlwg sy’n dod i’r Ynys Werdd gael tynnu ei lun yn codi peint tuag at y camera a cheisio ei orau i ddweud Sláinte! – sef Iechyd Da. Dim ond o drwch blewyn protocolaidd y llwyddodd y Frenhines Elisabeth i osgoi gorfod blasu’r stwff du ar ei hymweliad hithau’r llynedd. Ond chafodd hyd yn oed hi a’i g?r ddim osgoi’r ymweliad gorfodol â’r Guinness Storehouse yn Nulyn – un o brif atyniadau’r wlad.

 

Rydw i’n trysori’r atgof o ddod wyneb yn wyneb â Mikhail Gorbachev ym mar cyfyng Doheny and Nesbitt’s, un o dafarndai chwedlonol Dulyn, yn 2002. Roedd y lle’n llawn dop o swyddogion y gwasanaethau cudd ac o ffotograffwyr a oedd newydd gofnodi’r cyn-arweinydd Sofietaidd yn cymryd arno ei fod yn mwynhau’r ddiod ddu ryfedd y disgwylid iddo ei hyfed. (Roeddwn innau’n cofnodi ei ymweliad gyda dyn camera o RTÉ.) Doeddwn i na Gorbachev ddim yn gallu symud modfedd: edrychodd arnaf yn syn, ymgrymodd ei ben yn gwrtais, a dywedodd ‘dobri vyecha’ (noswaith dda), cyn i mi gael fy ngwthio o’r ffordd gan dditectif er mwyn i un o arwyr mawr yr ugeinfed ganrif allu gwasgu heibio imi.

Na, does yr un ymweliad ag Iwerddon yn gyflawn heb brofi Guinness mewn tafarn. (Os nad ydych, fel y soniais, yn digwydd bod yn Frenhines Lloegr.) Dyna, wrth gwrs, yw gorchest farchnata cwmni Guinness a lwyddodd i ddyrchafu eu diod i fod yn gymaint symbol o Iwerddon ag yw’r feillionen ei hun, yr eiconaidd shamroc. (Yr eironi yw nad cwmni Gwyddelig yw Guinness o gwbl erbyn hyn – mae’n rhan o gwmni rhyngwladol enfawr Diageo.)

Mae hyn oll yn tanlinellu’r berthynas gymhleth rhwng Iwerddon a’r ddiod feddwol. Does dim dwywaith amdani fod gan Iwerddon broblem gydag alcohol. Mae gan Gymru, yr Alban a Lloegr broblem debyg – yn enwedig yn achos pobl ifainc yn yfed. Ond mae’r holl fater yn fwy astrus ac yn ddyfnach yn Iwerddon. Yma, lle mae Guinness a’r diwydiant diodydd mor bwerus, mae delwedd os nad hunaniaeth y wlad yn gysylltiedig ag yfed alcohol.

Mae’r ystadegau’n arswydus. Yn ôl y mudiad Alcohol Action, bob saith awr mae rhywun yn Iwerddon yn marw o salwch sy’n gysylltiedig ag alcohol. Mae pobl ifainc 16 a 17 oed yn gwario €20 yr wythnos ar gyfartaledd ar alcohol. Mae 44% o ferched 15 ac 16 oed, a 42% o fechgyn yr un oed, yn dweud eu bod wedi yfed yn wirion (yfed binge yw’r gair) yn ystod y mis dwytha.

Ond nid pawb sy’n yfed. Mae ochr arall i’r stori.

Fel yng Nghymru, mae gan Iwerddon draddodiad o ddirwest – ac mae’r mudiad dirwest yn dal yn weddol gryf yma. Roedd y mudiad Gwyddelig yn ei anterth o ddechrau hyd at ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Aelod o urdd y Capwsiniaid, y Tad Matthew o Tipperary, a gychwynnodd y mudiad cyntaf yn Iwerddon yn 1838. Roedd yn gymeriad egnïol, carismataidd. Denwyd miloedd gan ei gredo syml o dyngu llw i ymwrthod yn gyfan gwbl ag alcohol, a chadw at yr addewid, doed a ddelo. Dywedir bod ugain mil o bobl wedi cymryd y llw mewn un diwrnod yn Nenagh, Tipperary. Erbyn 1845, o fewn saith mlynedd, roedd mwy na hanner y boblogaeth – tua thair miliwn o bobl – wedi ymuno â mudiad y Tad Mathew. Aeth ar daith i Loegr gan ddenu miloedd yn rhagor at yr achos, a bu ar ymweliad ysgubol â’r Unol Daleithiau.
Mae cofeb iddo ar Stryd O’Connell yn Nulyn, a phont wedi ei henwi ar ei ôl yng Nghorc. Bu farw’r Tad Matthew yn 1856. Gan fod y mudiad mor ddibynnol arno fo fel arweinydd, yn dilyn ei farwolaeth edwinodd yr achos. Fe gollwyd momentwm ac fe gollwyd aelodau.

Erbyn diwedd y 19eg ganrif roedd diwygwyr cymdeithasol unwaith eto’n pryderu am effeithiau alcohol ar y boblogaeth, yn enwedig ar y dosbarth gweithiol a’r tlawd. Yn 1898 ffurfiwyd cymdeithas ddirwest babyddol o’r enw y Pioneer Total Abstinence Association of the Sacred Heart neu’r Pioneers. Maen nhw’n weithgar hyd heddiw. Jeswit o’r enw y Tad James Cullen oedd symbylydd y mudiad, gyda chymorth pedair dynes benderfynol. Yn wahanol i’r Tad Matthew, aeth y Tad Cullen ati i greu cymdeithas drefnus gyda rhwydwaith o ganghennau ymhob plwyf. Roedd rhaid i’r aelodau wneud tri addewid: tyngu llw i beidio ag yfed diod feddwol am weddill eu bywydau; adrodd gweddi bwrpasol ddwywaith y dydd; a gwisgo bathodyn. Byddai’r bathodyn yn arwydd o’u llwyrymwrthodiad, ac yn rhybudd i eraill i beidio â chynnig alcohol iddyn nhw. Roedd y gymdeithas ynghlwm â’r Eglwys Babyddol, ac fe dyfodd yn gyflym, gyda chyfarfodydd rheolaidd ar lefel lleol a rhanbarthol.

Ar y dechrau dim ond merched oedd yn cael ymuno. Syniad y Tad Cullen oedd y byddai’r merched yn rhoi cymorth ysbrydol i bobl eraill i roi’r gorau i alcohol. Ond daeth dan bwysau gan ddynion i newid ei bolisi ac fe agorwyd y drysau i ddynion hefyd.

Yn 1905, ar ôl pum mlynedd, roedd yr aelodaeth yn 43,000. Erbyn 1914 tyfodd i 280,00 o aelodau ac erbyn y 1950au roedd 500,000 o bobl yn perthyn i’r mudiad. Bryd hynny roedd un o bob tri oedolyn yn Iwerddon yn aelod o’r Pioneers. Yn sgil newidiadau cymdeithasol y Chwedegau a’r Saithdegau fe gollodd y gymdeithas gryn dipyn o dir. Cyn y Chwedegau roedd y rhan fwyaf o yfed yn digwydd mewn tafarndai. Doedd llefydd o’r fath ddim yn cael eu hystyried yn addas ar gyfer merched parchus nac ar gyfer teuluoedd. Ond wedi hynny gwelwyd twf mawr mewn ‘lounge bars’, mannau lle y byddai grwpiau fel y Dubliners yn diddanu pobl o bob oed. Newidiodd hynny batrwm yfed y genedl.

Ond mae’r Pioneers yn dal i hawlio 100,000 o aelodau yn Iwerddon heddiw. Mae llawer o bobl, yn enwedig pobl o oedran arbennig, yn dal i wisgo’r bathodyn – llun bach o’r Galon Gysegredig – ar boced eu crys neu ar eu siaced. Ychydig iawn o bobl ifainc sy’n cael eu denu i’r mudiad heddiw, er bod plant mewn ysgolion pabyddol (sef y rhan fwyaf o ysgolion y wlad) yn tyngu llw wrth gael eu derbyn i’r Eglwys yn 13 oed i ymwrthod ag alcohol nes eu bod yn 18 oed.

Mae’n amlwg o’r ystadegau yfed dan oed a grybwyllwyd eisoes mai ychydig iawn o bobl ifainc sy’n cadw at eu haddewid i beidio ag yfed. Y ddadl gan nifer o bobl yw fod gofyn i blant 13 oed wneud addewid o’r fath mor ifanc yn gwbl afrealistig, yn enwedig o ystyried y pwysau cymdeithasol sydd arnyn nhw o bob cyfeiriad. Llawer callach, meddid, fyddai ceisio hyrwyddo cymedroldeb.

Daw hynny a ni at ddwy ddadl gyfredol. Yn gyntaf, mae pwysau cynyddol ar fudiadau chwaraeon i beidio derbyn nawdd gan gwmnïau alcohol. Guinness, er enghraifft, yw un o noddwyr y GAA (Cymdeithas y Gemau Gwyddelig) ac Undeb Rygbi Iwerddon. Ac, wrth gwrs, mae Heineken yn noddi cystadlaethau’r Cwpan Rygbi Ewropeaidd. (Ond oherwydd cyfyngiadau llywodraeth Ffrainc ar dderbyn nawdd i chwaraeon gan gwmnïau alcohol nid Cwpan Heineken ond Cwpan H yw’r enw arni yn y wlad honno.) Dadleuir bod cysylltu alcohol gyda chwaraeon – yn enwedig chwaraeon sy’n denu’r to ifanc – yn mynd yn groes i’r neges bod yfed yn ddrwg i’w hiechyd. Ond beth wnawn ni heb arian y bragwyr yw cwestiwn y GAA a’r IRFU.
Yn ail, mae’r penderfyniad gan Senedd yr Alban i gyflwyno isafbris ar alcohol, a’r sôn bod Cymru a Lloegr yn ystyried gwneud yr un peth, wedi rhoi hwb i ymgyrch gyffelyb yn Iwerddon. Mae Roisin Shortall, Gweinidog yn Adran Iechyd y Weriniaeth, wedi cytuno gyda Gweinidog Iechyd Gogledd Iwerddon ar gynllun i gyflwyno’r un isafbris ar litr o alcohol drwy Ynys Iwerddon yn ei chyfanrwydd erbyn diwedd eleni. Mae’n bwysig bod yr isafbris yn cael ei osod yn y De a’r Gogledd ar yr un pryd rhag ofn i bobl bicio dros y ffin i brynu alcohol rhatach. Mae’n ddiddorol mai mesur i reoli goryfed fydd un o’r tameidiau cyntaf o ddeddfwriaeth i gael ei lunio ar y cyd gan y ddwy lywodraeth mewn ysbryd o gydweithrediad ac undod.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Sefydliad Cenedlaethol yn Bendifaddau

Ymlaen >

Chwarae â Rhithiau