Thema dywyll Thema golau

Mwy tosturiol na Kate

erthygl-hydref-2018-1912-847 erthygl-hydref-2018-1912-847
Rhwng 1933 ac 1943 cyhoeddodd Elena Puw Morgan dair nofel i oedolion – pob un o’r tair yn enillwyr gwobrau o bwys yn Eisteddfodau Cenedlaethol y cyfnod. Mae rhywun yn gresynu’n fawr nad ysgrifennodd ragor. Nansi Lovell: Hunangofiant Hen Sipsi oedd y gyntaf ohonynt, ac fel y gwelwyd wedyn yn Y Wisg Sidan ac Y Graith, mae yma nofelydd greddfol: un sicr ei chyffyrddiad wrth lunio golygfeydd cofiadwy a chanddi’r gallu i greu cymeriadau gafaelgar, i gydbwyso sgwrs a naratif yn ddramatig, ac i yrru plot yn hyderus a diwastraff yn ei flaen. Mae’r nofel, sydd newydd ei hailgyhoeddi gan Wasg Honno, yn dyst i ddiddordeb yr awdures mewn pobl o bob math – yn yr achos hwn yn niwylliant carfan o’r gymdeithas a oedd yn dra gwahanol i’w chefndir llengar ac anghydffurfiol ei hun. Ffrwyth ymwneud Elena Puw Morgan â’r sipsiwn Romani a ymwelai â’i bro enedigol yng Nghorwen yw’r nofel, ac mae ei rhan gyntaf yn bortread cofiadwy o fyw a bod ‘Hen Deulu’ Abram Wood ar ddechrau’r 20g.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Cip ar weddill rhifyn Hydref

Ymlaen >
erthygl-hydref-2018-1913-848

Enillydd y Cwis