Thema dywyll Thema golau

Newid ddaeth o rod i rod

Cofeb Waldo ger Mynachlog‑ddu. Llun: shirokazan / CC BY 2.0

Yn sgil ei ymweliad â bro’r Preseli ar gyfer yr Eisteddfod, myfyrio ar y newid mewn cymdeithas a’r heriau sy’n wynebu llawer o’n cymunedau y mae ein colofnydd.

Rydw i’n gweddïo nad oes rhithyn o wirionedd yn y gred bod cyfenw’r ‘brenin’ Elvis yn tarddu o enw bryniau’r Preseli. Does dim angen rhagor o dwristiaid ar yr ardal hon heb sôn am addolwyr yr hen El yn dod i gymuno gyda’r carneddau hyn. Doedd yr un o’m traed wedi sangu ar y Preseli tan wythnos yr Eisteddfod pan ymlwybrais dros Foel Drigarn a Garn Gyfrwy a chael golygfa ddiguro o arfordir Bae Ceredigion mewn heulwen a thref wen Maes Eisteddfod y Garreg Las yn y pellter. Ond bore tamp, niwlog oedd hi pan euthum i chwilio am garreg goffa Waldo Williams. Lôn gul, droellog rhwng cloddiau uchel sy’n dirwyn tuag at Fynachlog‑ddu – ac at bob pentref arall yn y sir hyd y gwelwn i – ond roedd y palets lliwgar croesawus ym mhob iet a baneri a blodau ar bob twlc a thyddyn, chwarae teg. Ac yno uwchben y pentref ar rostir eithinog mae’r gofeb syml i’r bardd mwyaf dylanwadol ei syniadau yng Nghymru yn yr 20g.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

O’r chwareus i’r dirdynnol

Ymlaen >

Yr edefyn aur