Wyneb a llais cyfarwydd ar raglenni newyddion y BBC yw WYRE DAVIES. Mae wedi gohebu – yn Gymraeg a Saesneg – o ganol gwrthdaro a rhyfeloedd mewn mannau fel yr Aifft, Israel, Irac, Libanus, Libya, Syria ac Wcráin. Mae hefyd yn darlledu ar Radio Wales ac yn newyddiadurwr ymchwiliadol gyda’r rhaglen BBC Wales Investigates. Bu’n sgwrsio a rhannu’i brofiadau fel gohebydd rhyfel gyda Barn.
Yn Libya, yn Hydref 2011, roedd y gwrthryfel yn erbyn Muammar Gaddafi yn cyrraedd ei benllanw a dinas Sirte – ei gadarnle olaf – ar fin syrthio. Roedd Wyre Davies yno’n gohebu ac yn llochesu mewn tŷ ar y cyrion gyda chriw o wrthryfelwyr. Roedd preswylwyr y tŷ – cefnogwyr Gaddafi – wedi ffoi ar frys ac un o’r gwrthryfelwyr wedi bod yn twrio yn yr ardd rhag ofn eu bod wedi claddu unrhyw beth gwerthfawr yno. Cyn bo hir daeth yn ôl i’r tŷ yn chwifio trysor – gwn llaw newydd a sgleiniog. ‘Bydd yn ofalus! Bydd yn ofalus!’ meddai pawb wrtho. Ond roedd y gwrthryfelwr wedi tynnu’r magazine allan o’r gwn ac fe’i pwyntiodd yn chwareus at Wyre. Ac yna bu fflach a chlec fyddarol – roedd bwled ar ôl yn y siambr danio. Teimlodd Wyre’r fwled yn gwibio heibio’i glust cyn iddi ‘fwrw’r wal tu ôl i fi a bennu lan yn y to’.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
-

Tanysgrifiad – Digidol yn Unig
Dewiswch yr opsiwn hwn i gael mynediad at fersiynau llawn yr erthyglau ar ein gwefan, a rhifynnau blaenorol yn eu ffurf ddigidol. Byddwch yn gallu darllen popeth sydd ar ein gwefan tra mae eich tanysgrifiad yn weithredol.£35.00 / blwyddyn
Rhoi yn y fasged
-

Tanysgrifiad – Print a Digidol
Dewiswch yr opsiwn hwn i gael mynediad at holl gynnwys gwefan BARN. Byddwch hefyd yn derbyn rhifyn newydd drwy’r post yn fisol tra mae eich tanysgrifiad yn weithredol.£50.00 / blwyddyn
Rhoi yn y fasged
Mewngofnodi
Cofrestru