Serch hynny, i’r rhai ohonom sy’n ymddiddori yn y pethau hyn, mae’r gwahaniaethau, yn arbennig yn y modd y mae’r ddwy glymblaid yn gweithredu, mor drawiadol nes eu bod yn haeddu trafodaeth.
Un sylw a glywyd yn gyson yng Nghymru ers haf 200 yw bod y Blaid Lafur a Phlaid Cymru wedi llwyddo i gydweithio’n esmwyth dros ben. Drychwch mor agos yw’r berthynas rhyngddynt! Yn amlach na pheidio fe ddywedwyd hyn efo tinc o syndod yn y llais, fel pe bai’r fath beth yn annisgwyl. Ymddengys mai cytgord fu nodwedd fwyaf trawiadol cyfarfodydd y cabinet. Llwyddodd y Prif Weinidog a’i Ddirprwy i gydweithio’n effeithiol trwy’r trwch, hyd yn oed pan oedd Rhodri Morgan ac Ieuan Wyn Jones ochr yn ochr yn y tresi. Hynny er gwaetha’r ffaith na ellir dychmygu dau fwy gwahanol eu hanian a’u personoliaethau na’r rhain! Yn wir, dim ond unwaith y gwelwyd perygl gwirioneddol i’r glymblaid, a hynny pan ddechreuodd Llafur – dan ddylanwad Peter Hain – wamalu ynglyn â’u hymrwymiad i alw am refferendwm. Er nad yw’r manylion llawn yn hysbys eto, gellir bod yn sicr fod Plaid Cymru wedi gorfod bygwth dymchwel y glymblaid cyn i’w partneriaid ddod at eu coed. Ond ni fu edliw yn gyhoeddus naill ai ar y pryd na wedyn. Llwyddodd y ddwy blaid i ymddwyn fel oedolion – neu fel y dylai oedolion geisio ymddwyn, beth bynnag.
Serch hynny, o’i chymharu â’r glymblaid yn Llundain, fe ellid dadlau mai perthynas hyd braich a welwyd rhwng Llafur a Phlaid Cymru. Mae sylwebyddion di-rif eisoes wedi nodi’r tebygrwydd o ran incwm a magwraeth – hynny yw, dosbarth – rhwng y rheini sy’n eistedd o amgylch bwrdd y cabinet yn 10 Stryd Downing. Yn ôl pob tebyg, maent yn hynod, hynod gyfforddus yng nghwmni ei gilydd. Ond yr hyn sydd wedi fy nharo i, yn arbennig, ydi agosrwydd y berthynas rhwng aelodau etholedig y fainc gefn. Mae ASau Ceidwadol a Rhyddfrydol Cymru, er enghraifft, yn cynnal cyfarfodydd cyson ar y cyd efo’rYsgrifennydd Gwladol. Maent hefyd yn cydlynu eu gweithgareddau eraill yn agos. Nid wyf yn credu y cafwyd dim byd tebyg i hyn ymysg meincwyr cefn y llywodraeth yng Nghaerdydd. Yn fwy trawiadol fyth, fe welir y Ceidwadwyr a’r Rhyddfrydwyr yn cydweithio’n agos yn yynulliad Cenedlaethol ei hun. Mae arweinwyr y ddwy blaid yn cydlynu’n glo`s tra bod yna gyd-drafod cysonymhlith yr aelodau etholedig eraill hefyd. Yn amlwg, mae’r ddwy blaid wedi eu hargyhoeddi eu hunain fod gan y glymblaid yn San Steffan oblygiadau pellgyrhaeddol – hyd yn oed mewn cyd-destun etholiadol cwbl wahanol.
Dichon fod y ffaith nad oedd llawer o Gymraeg rhwng Elfyn Llwyd a Peter Hain yn rhannol egluro pam nad oedd Aelodau Seneddol Cymreig yn teimlo bod a wnelo Cymru’n Un ryw lawer iawn â nhw. Ond mae rhesymau mwy sylfaenol na hynny hefyd. Yn sicr ddigon, ni ellir fyth ddychmygu yng Nghymru y math o awgrymiadau sy’n deillio o gyrion arweinyddiaeth y Torïaid a’r Rhyddfrydwyr ar hyn o bryd. Awgrymiadau yw’r rheini i’r perwyl y dylai’r ddwy blaid gynghreirio’n ffurfiol er mwyn ymladd yr etholiad cyffredinol Prydeinig nesaf. Go brin y daw dim o hyn, ond mae’r ffaith fod pobol o ddifri’n awgrymu’r fath beth a hynny, rwy’n cymryd, gyda sêl bendith oddi fry, yn dweud rhywbeth pwysig wrthym am natur y berthynas rhwng y ddwy blaid yn San Steffan.
Rwy’n deall yn iawn pam fod Nick Bourne a’r blaid Gymreig wedi dewis ymddwyn fel ag y maent. Er gwaetha’r rhethreg ‘cymunedol’ a glywir ar hyn o bryd – y pwyslais ar ‘y lleol’ – mae’r Torïaid yn blaid sylfaenol hierarchaidd. Fe fyddai’n anodd os nad yn amhosibl i’r rhan fwyaf o’i haelodau ddychmygu gwneud dim byd arall ond dilyn y trywydd a benderfynir gan ‘HQ’ yn Llundain. Ond nid felly y mae hi i fod yn achos y Democratiaid Rhyddfrydol. Dyma blaid sydd, mewn theori, yn blaidffederal! Roedd gwrthwynebiad Kirsty Williams i’r glymblaid yn ddigon hysbys. Mae’n amlwg o ddarllentelerau’r cytundeb sy’n sail i’r llywodraeth yn Llundain nachafodd Rhyddfrydwyr Cymru unrhyw ddylanwad yn y trafodaethau a arweiniodd at y glymblaid. Mae’n amlwg hefyd fod Swyddfa Cymru wedi ei throsglwyddo i ddwylo gwleidyddion sydd â gwerthoedd sylfaenol sy’n bell, bell oddi wrth ddaliadau’r Rhyddfrydwyr yn y Cynulliad. Eto i gyd, mae Williams a’i charfan fechan o Aelodau wedi gwrthod cicio yn erbyn y tresi. Yn hytrach, maent wedi closio at y glymblaid yn Llundain. O’r herwydd, maent bellach yn cael eu dal yn gyfrifol gan y cyhoedd am weithredoedd llywodraeth na chawsant unrhyw ran yn ei llunio, ac nad ydynt yn llwyddo i ddylanwadu ar ei gweithredoedd mewn unrhyw ffordd ystyrlon: y canlyniad gwaethaf bosib! O ystyried pa mor wael yw’r rhagolygon etholiadol ar eu cyfer yn ôl yr arolygon barn Cymreig, byddai Kirsty Williams yn ddoeth i newid ei chân. Ond hyd yn oed pe gwnâi hynny, mae’n debyg ei bod yn rhy hwyr ar gyfer mis Mai...
Pam fod y Rhyddfrydwyr wedi gweld yn dda i ymddwyn mewn ffordd sydd mor ddiangen o hunan-niweidiol? Sut yn y byd y mae plaid ffederal fel petai yn benderfynol o lynu’n dynn at egwyddor sylfaenol Leniniaeth, gan ddilyn arweiniad y canol, doed a ddelo, boed addas neu beidio (yr hyn yr arferid ei alw’n ‘ddemocratiaeth ganolog’)?
Diau fod sawl ffactor yn gweu trwy’i gilydd. Arweinydd cymharol ddibrofiad ydi Williams. Falle fod hynny wedi ei gwneud hi’n anodd iddi feddwl am dorri ei chwys ei hun? Yn sicr, gyda’i grwp yn y Cynulliad mor nodedig o ranedig, fe allai’n hawdd fod wedi casglu na fyddai digon o undod – na rhuddin – yno i’w chefnogi, hyd yn oed petai hi wedi ceisio gwneud hynny. Ond, yn y bôn, rwy’n credu mai’r broblem sylfaenol yw fod y Rhyddfrydwyr, er gwaethaf holl bwyslais rhethregol y blaid honno ar ffaeleddau’r drefn sydd ohoni, wedi eu dallu gan ymlyniad greddfol at weledigaeth neu fyth penodol Brydeinig, a chwbl dreuliedig, ynglyn â natur llywodraeth ddemocrataidd.
Y dybiaeth draddodiadol ym Mhrydain yw fod dwy blaid fawr yn cynnig eu syniadau i’r etholaeth; fod y rheini yn eu tro yn dewis pa gynnig sydd at eu dant; a bod y gyfundrefn etholiadol cyntaf-i’r-felin yn sicrhau digon o fwyafrif i’r blaid fuddugol allu gweithredu ei rhaglen yn llawn (gyda chymorth gwasanaeth sifil ufudd, wrth reswm). Nonsens llwyr yw hyn, wrth gwrs. A hynny ym mhob manylyn. Serch hynny, mae gafael y model neu’r ddelfryd hon ar y dychymyg gwleidyddol ym Mhrydain yn parhau’n gadarn. Ystyrir unrhyw beth sy’n gwyro oddi wrthi yn annigonol neu’n annilys; yn sawru, yn wir, o’r annemocrataidd. Felly nid yw’n ddigon i gyfiawnhau ffurfio clymblaid fel ymateb pragmataidd i rifyddeg etholiadol. Yn hytrach rhaid cyflwyno unrhyw gytundeb mewn golau sydd bron yn Feseianaidd: fel y cyfle olaf i achub y wlad rhag chwalfa economaidd, neu o afael y Wladwriaeth Fawr Ddrwg, sef y bwci bo. Nid yw clymblaid syml yn ddigon. Rhaid wrth uniad sanctaidd i waredu’r deyrnas o ryw aflwydd neu’i gilydd. Gwrandewch ar rethreg Nick Clegg, Vince Cable a’r gweddill. Dyna’r cywair. Ac o fabwysiadu cywair o’r fath, sut allai hynny beidio â gadael ei ôl ar wleidyddiaeth ddatganoledig hefyd?
Ar wahân, efallai, i’r Aelod Seneddol Llafur gwladgarol, Paul Flynn, nid wyf yn credu fod ’na lawer wedi dehongli clymblaid Cymru’n Un mewn termau amgenach nag un gwbl bragmataidd. A dyna pam y mae wedi gweithio mor gymharol esmwyth.
Cafwyd cytundeb. Aethpwyd ati i geisio ei weithredu. Dim mwy, dim llai. Pan gafwyd ymgais i wyro oddi wrth y cytundeb y cafwyd tensiwn go iawn, a phan sylweddolwyd nad oedd gwyro yn opsiwn, fe gafodd y glymblaid ei thraed dani unwaith yn rhagor. Diramant? Ie, yn sicr. Nid rhyw Garwriaeth Fawr fu perthynas Llafur a Phlaid Cymru dros y tair blynedd a hanner diwethaf. Ond mantais hynny fu lleihau’r perygl o deimlo dadrithiad. Mewn cyferbyniad llwyr, gellir bod yn weddol sicr mai dadrithiad mawr fydd ffawd y love-in presennol o amgylch bwrdd y cabinet yn Stryd Downing. Hynny a thanseilio sefyllfa’r Democratiaid Rhyddfrydol yn llwyr yng Nghymru a’r Alban.
Nid mater bach yw clymbleidio’n llwyddiannus. Beth bynnag yw ei ffaeleddau, bu clymblaid Llafur a Phlaid Cymru yn enghraifft o gydweithio aeddfed a digon effeithiol. Nid yw’n syndod, felly, fod cymaint o’r rheini sy’n ymwneud â’r ddwy blaid mor awyddus i ailadrodd y profiad am bedair blynedd arall. Falle nad oes ryw angerdd mawr i’r berthynas, ond mae’r naill ochr yn deall gwerth y llall.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru

