‘Ar ôl sicrhau ein hannibyniaeth oddi wrth Brydain a’r rhyddid i reoli ein gwlad ein hunain,’ meddai’r Irish Times (papur sydd, gyda llaw, ymhell o fod yn weriniaethol o ran ei draddodiad – Unoliaethol a Phrotestannaidd oedd yr Irish Times yn hanesyddol), ‘rydym yn awr wedi ildio ein sofraniaeth i’r IMF a’r Comisiwn.’
Cywilydd, embaras, methiant, euogrwydd, siom, tristwch, dicter. Dyna rai o’r emosiynau a fynegwyd yn gyhoeddus wrth i Ajai Chopra a’i dîm o’r IMF gyrraedd yn ddiffwdan i gymryd gafael yn awenau economaidd Iwerddon. Cywilydd, am fod ein llywodraeth wedi gwneud y fath lanast o bethau – a chywilydd am mai nyni sy’n gyfrifol, i raddau, am eu hethol a’u hailethol.
Embaras, am ein bod wedi cwympo mor sydyn ac mor isel. Mynd, o’n brolio ein hunain am fod mor gyfoethog a llwyddiannus, i orfod gofyn am help ariannol.
Euogrwydd, am ein bod yn gwybod yn iawn fod bai arnom am fenthyca’n wirion i brynu fflatiau yn Sbaen a Bwlgaria, a cheir 4x4. Tristwch, am fod ein balchder cenedlaethol yn deilchion. A dicter – cynddaredd tuag at y llywodraeth a’r banciau sydd wedi ein llusgo i’r gwaelodion.
Wrth gwrs, roedd yr argyfwng hwn wedi bod yn ein bygwth ers dros ddwy flynedd, ers i helyntion y banciau ddechrau. Ond pan ddaeth hi’n amlwg nad oedd dim dewis ond agor y drws i’r IMF, fe wrthododd y llywodraeth wynebu realiti. Gwadwyd adroddiadau fod trafodaethau ar y gweill gyda’r IMF. Na, meddai’r llywodraeth, dim byd o’r fath. Pa drafodaethau? Does ’na ddim trafodaethau.
Ac, am ddyddiau lawer, fe barhaodd y llywodraeth i wadu’r hyn oedd yn gwbl amlwg. Yn y diwedd, aeth llywodraethwr Banc Canolog Iwerddon, Patrick Honohan, ar y radio (gan droi ei hun yn arwr annisgwyl yng ngolwg y bobol) a dweud yn blwmp ac yn blaen bod pecyn o gymorth gan yr IMF a’r Undeb Ewropeaidd ar y ffordd. Dim ond bryd hynny yr ildiodd y llywodraeth, a chydnabod yr hyn a wyddai’r byd a’r betws eisoes. Roedd y cyhoedd yn gandryll. Nid yn unig roedd Fianna Fail, a’r Taoiseach Brian Cowen, wedi arwain y wlad i’r twll yma, roedden nhw bellach wedi ceisio camarwain a thwyllo’r bobol.
Ac oherwydd eu dadrithiad llwyr gyda’u harweinwyr gwleidyddol, ac am eu bod wedi blino efo’r ansicrwydd, roedd yna mewn gwirionedd deimlad o ryddhad fod yr IMF wedi cyrraedd. ‘O’r diwedd, mae rhywun yn gofalu am bethau. Efallai na fyddwn ni’n hoffi eu penderfyniadau nhw, ond o leiaf mi fyddan nhw’n gwneud penderfyniadau,’ oedd yr ymateb cyffredinol. ‘Naw wfft i sofraniaeth! Be’ sydd ei angen arnom yw rhywun a all ein helpu i glirio’r llanast, a’n galluogi i ailgydio yn ein bywydau.’
Rhaid cofio un peth. Yn ogystal â bod yn bobol falch, sydd wedi brwydro’n ddygn dros y canrifoedd i ennill eu hannibyniaeth, mae’r Gwyddelod hefyd yn bobol bragmataidd. Un o’r dywediadau mwyaf cyffredin yma, pan fydd rhywun yn gorfod wynebu ffaith neu ddatblygiad annymunol, yw ‘Ah, sure...’ gydag ystum o godi’r ysgwyddau. Dynoda hynny dderbyn yr anochel a symud ymlaen, neu ailgyfeirio.
A gwyddant yn iawn nad oes y fath beth â sofraniaeth lwyr yn bod, yn enwedig i wlad fechan. Does neb yn deall yn well na’r Gwyddel beth yw ystyr bod yn gydddibynnol, a sut i fan?fro’n ddeheuig i sicrhau buddiannau ei wlad. Dyna pam y bu Iwerddon yn aelod mor frwdfrydig o’r Undeb Ewropeaidd, gan gyfrannu ac elwa o fod yn aelod.
Nid colli annibyniaeth yw derbyn cymorth yr IMF, ond pris sydd yn rhaid ei dalu er mwyn cadw annibyniaeth. Ac efallai bod dyfodiad yr IMF yn gyfle i Iwerddon osod sylfeini mwy cadarn a mwy gonest ar gyfer economi’r dyfodol. Roedd peth wmbredd o drachwant, hunan-dwyll a blerwch ynghlwm â’r teigr Celtaidd: banciau’n cuddio ffigyrau, yr awdurdodau oedd i fod i reoli’r banciau yn cau eu llygaid, y llywodraeth a’r cyhoedd yn osgoi gofyn cwestiynau. Neb isio sbwylio’r parti. Da o beth fydd bod yn fwy realistig yn y dyfodol.
Wrth gwrs, mae ffisig yr IMF a’r Undeb Ewropeaidd yn mynd i fod yn ofnadwy o chwerw. Un o amodau’r benthyciadau 85 biliwn ewro ganddyn nhw ydy gweithredu cynllun cyllidol llym ar gyfer y pedair blynedd nesaf er mwyn arbed 15 biliwn ewro. Trethi’n codi, gwariant cyhoeddus i lawr. Toriadau iechyd ac addysg, cwtogi ar fudd-daliadau.
Wrth edrych drwy sbectol Gymreig, dydy rhai o’r mesurau ddim yn ymddangos yn rhy llym. Treth ar dai o 100 ewro y flwyddyn (does ’na ddim trethi ar dai yn Iwerddon fel sydd ym Mhrydain), ffioedd dysgu o 2,000 ewro y flwyddyn i fyfyrwyr (faint mae myfyrwyr Cymru yn dal i orfod ei dalu?), torri’r lleiafswm cyflog i 7.85 ewro yr awr (sy’n dal yn uwch na’r lleiafswm ym Mhrydain).
Fel y dywedodd un arall o arwyr newydd Iwerddon, Ollie Rehn, y Comisiynydd Ewropeaidd ar Faterion Economaidd ac Ariannol, rhaid i Iwerddon dderbyn trethi ‘mwy normal’.
Yr ofn mawr ym Mrwsel a Pharis a Frankfurt yw na fydd y mesurau llym na’r benthyciadau mawr i’r banciau yn bodloni’r marchnadoedd, ac y bydd trafferthion Iwerddon yn lledu i Bortiwgal a Sbaen ac yn dinistrio’r ewro. Ond yr ofn mawr yma ydy na fydd Iwerddon yn gallu fforddio ad-dalu ei benthyciadau anferthol, ac y byddwn ni mewn dyled am byth. Ac mae ’na hen deimlad anghysurus mai nyni, pobol gyffredin Iwerddon, fydd yn gorfod talu nid yn unig am achub ein banciau diawledig ni ein hunain, ond hefyd y banciau tramor a fenthycodd yn annoeth iddyn nhw.
I gymhlethu pethau ymhellach, mae gennym lanast gwleidyddol. Does wybod am ba hyd y gall llywodraeth Brian Cowen barhau. Mwyafrif bach sydd gan y glymblaid, ac mae Cowen wedi addo etholiad cyffredinol yn y flwyddyn newydd. Mae Cowen ei hun yn debygol o gael ei ddisodli fel arweinydd Fianna Fail, ond does neb arall ar frys i arwain y Blaid i mewn i etholiad sy’n siwr o fod yn drychinebus iddi. Yr unig beth sy’n sicr ydy y bydd gan Iwerddon lywodraeth newydd erbyn y gwanwyn. Ond bydd yn rhaid i’r llywodraeth honno weithredu o fewn canllawiau bois yr IMF a Brwsel.
Mmm – ie. Colli sofraniaeth. Ar y llaw arall, er gwaethaf baich y benthyciadau enfawr, a’r holl amodau, mae Iwerddon yn dal i fod â’r hawl a’r rhyddid i ddewis ei llywodraeth ei hun. Dydy hi ddim yn hawdd i wlad fechan lywio ei ffordd ar ei phen ei hun drwy foroedd stormus yr economi ryngwladol, gyda siarcod ysglyfaethus y banciau a’r marchnadoedd ariannol yn ei brathu. Er gwaetha pawb a phopeth, mae’r Gwyddelod yn dal i geisio brwydro ’mlaen. Drwy’r cyfan, mae Iwerddon yn dal i geisio gwireddu breuddwyd annibyniaeth 1916. Ac yn ogystal â’u balchder, a’u pragmatiaeth fel pobol, mae un nodwedd genedlaethol arall a fydd o help iddyn nhw oroesi’r trafferthion presennol. Hiwmor, diolch byth, yw hynny. Fy ffefryn, hyd yn hyn, oedd eitem ar y radio, sef ‘dyddiadur’ un o swyddogion yr IMF, Wolfgang Uponus, wrth iddo gyrraedd Dulyn. Ac mae ‘50 rheswm dros garu Iwerddon’ (chwiliwch Google am Ireland: the good stuff) yn ddigon i godi mymryn lleiaf ar y galon.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru

