Thema dywyll Thema golau

Niwtral – ond ddim yn hollol niwtral

erthygl-ebrill-2022-2328-1222 erthygl-ebrill-2022-2328-1222
Ym mis Ionawr eleni pan oedd milwyr Rwsia yn ymgasglu yn fygythiol ar ffin Wcráin, a phan oedd Pŵtin yn gwadu bod ganddo unrhyw fwriad o ymosod, cafwyd gwrthdrawiad bach diplomyddol rhwng Rwsia ac Iwerddon. Roedd llongau arfog Rwsia ar eu ffordd i’r dyfroedd sydd i’r de-orllewin o arfordir Iwerddon er mwyn cynnal ymarferiadau milwrol. Roedd yna ddau reswm dros bryderu am yr ymarferiadau. Yn gyntaf, o safbwynt NATO a’r Gorllewin, mae’r rhan yma o Fôr Iwerydd yn arwyddocaol oherwydd bod yna geblau neu wifrau strategol bwysig o dan y môr sy’n cario data rhwng Ewrop a’r Unol Daleithiau. Yn ôl sylwebyddion arbenigol, pwrpas cudd ymarferiadau Rwsia oedd ysbïo neu hyd yn oed amharu ar y gwifrau hynny. Yr ail destun pryder oedd bod yr ardal benodol hon o’r Iwerydd yn rhan o ddyfroedd pysgota Iwerddon. Wrth gwrs, gwylltiodd hynny’r pysgotwyr. Nid yn unig fe fydden nhw’n cael eu rhwystro rhag pysgota yn ystod yr ymarferiadau, ond byddai tanio arfau yn tarfu ar y pysgod ac o bosib yn gwneud niwed ecolegol tymor hir.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-ebrill-2022-2327-1221

Rhannu’r gacen newyddion digidol

Ymlaen >
erthygl-ebrill-2022-2329-1223

Clwb Wcreiniaid Treforys