Gwelodd y flwyddyn hon gryn drafod ar hynt a helynt y wasg Gymraeg ar dudalennau’r cylchgrawn hwn, a gwn fy mod wedi neilltuo sawl colofn olygyddol i drafod y pwnc. Ond, a ninnau ar fin cau pen y mwdwl ar 2008, gobeithio y caf faddeuant am ddychwelyd at y thema.
Mae hyd yn oed y mwyaf pengaled ohonom wedi derbyn, erbyn hyn, bod menter ‘Y Byd’ ar ben, a hoelen arall wedi ei morthwylio’n gadarn i gaead arch y Gymraeg. Y tro yma, fodd bynnag, y cyhoeddiad hwn sydd gen i dan sylw. Oherwydd fel y gwyr llawer iawn ohonoch, gall fod dyfodol Barn, erbyn hyn, yn y fantol. Ddiwedd Tachwedd daeth y newydd fod ein cais am drwydded a fyddai’n sicrhau cymorth ariannol i ni am 3 blynedd arall wedi ei wrthod gan Gyngor Llyfrau Cymru. Dim ond gwarant o flwyddyn arall a roddwyd i ni, a hynny oherwydd bod cynlluniau i gyhoeddi cylchgrawn newydd yn yr un maes â Barn wedi dod i law Cyngor Llyfrau Cymru, a’r Cyngor wedi methu dod i benderfyniad. Os yw Barn am barhau i ddatblygu ar ôl mis Mawrth 2010, bydd yn rhaid trechu’r her honno mewn cystadleuaeth y nodwyd ei hamodau hi gan y Cyngor Llyfrau.
Mae’r wybodaeth yr oeddem wedi ei derbyn gan y Cyngor wrth fynd i’r wasg yn ein gwneud yn hynod bryderus ynglyn â thegwch y gystadleuaeth rhyngom ni a ‘Sylw’, y cyfnodolyn newydd arfaethedig y mae cais wedi ei wneud i’w ddatblygu gan gwmni cyhoeddi Y Lolfa.
Mae’r Cyngor Llyfrau wedi amlinellu natur y gystadleuaeth honno yn barod. Derbyniodd Barn grant llawn, a fydd yn caniatáu i ni barhau i gyhoeddi’r cylchgrawn yn ei ffurf bresennol hyd at fis Mawrth 2010. Ond maent hefyd wedi rhoi swm o £5000 i Y Lolfa, er mwyn iddyn nhw baratoi rhifyn enghreifftiol o ‘Sylw’. Ymhen llai na blwyddyn bydd y rhifyn enghreifftiol hwn o ‘Sylw’ yn cael ei gymharu ag un rhifyn dethol o Barn, gyda’r ddau gyhoeddiad yn cystadlu am y grant a fydd yn ymestyn tu hwnt i Fawrth 2010. A’r union drefniant hwn sydd yn peri pryderon i ni fel cylchgrawn ac yn golygu ein bod yn gofyn nifer o gwestiynau, a hynny oherwydd bod cynsail yn cael ei osod y talai i bob cyhoeddwr cylchgrawn sy’n derbyn nawdd i graffu’n fanwl ar ei oblygiadau.
Yn gyntaf, onid oes perygl y bydd yr ansicrwydd sy’n deillio o grant blwyddyn – yn hytrach na’r grant 3 blynedd arferol – yn gwneud drwg i’n hymgyrchoedd marchnata ni ac yn arwain at ddirywiad yng ngwerthiant Barn? Mae nifer helaeth o’n darllenwyr yn derbyn eu copïau trwy danysgrifiad. A fydd penderfyniad y Cyngor Llyfrau o help i ni i ddarbwyllo darllenwyr i adnewyddu eu tanysgrifiadau ar ôl Mawrth 2009? Neu i ddenu tanysgrifwyr newydd? Go brin. Yn wir, os yw’r Cyngor Llyfrau yn bwriadu gwneud gwerthiant yn un o’r ffactorau sydd i’w hystyried wrth adnewyddu’r drwydded, yna mae natur y gystadleuaeth yn milwrio yn ein herbyn yn syth.
Mae cwestiynau pellach i’w gofyn ynglyn â’r broses o ddyfarnu buddugwr y gystadleuaeth hon. Yn eu datganiad cyhoeddus mae’r Cyngor Llyfrau yn datgan y bydd barn ‘darllenwyr a defnyddwyr’ yn cael ei ystyried wrth wneud y penderfyniad. Mae’n ymddangos, felly, y bydd grwp ffocws yn cael ei ddefnyddio i wneud penderfyniad ynglyn â thynged cylchgrawn sydd wedi ymddangos yn ddi-dor ers 1962. O ystyried bod ansicrwydd ynglyn â dyfodol nawdd Y Cymro – cyhoeddiad arall a dderbyniodd drwydded am flwyddyn yn unig, yn hytrach na’r tair blynedd arferol – gallai diddymu grant Barn olygu na fyddai gan y Gymru Gymraeg yr un cylchgrawn na phapur newydd materion cyfoes cenedlaethol a allai olrhain ei hanes yn ôl yn hwy na 21 mlynedd. Onid yw hwn yn benderfyniad y dylid ei wneud gan arbenigwyr, yn hytrach na grwp ffocws?
Ond, yn fwy sylfaenol, mae’r drefn newydd hon o ddyfarnu nawdd gyhoeddus yn codi cwestiynau difrifol ynglYn â’r modd y mae’r Cyngor Llyfrau yn ymwneud â chylchgronau yn gyffredinol. Gyda’r penderfyniad hwn daw union arwyddocâd canllawiau’r Cyngor wrth ddosbarthu arian i gylchgronau yn amlwg. Chwi gyhoeddwyr a golygyddion cylchgronau, byddwch barod! Mae’r Cyngor yn rhwym o wahodd ceisiadau newydd, ond oni fyddai modd canfod trefn lai amrwd na’r un bresennol? Canmolwyd ein ‘cais cryf iawn’ gan y Cyngor; nid ydynt erioed wedi mynegi pryder ynglyn ag ansawdd yr hyn sy’n cael ei gyhoeddi ar dudalennau Barn. I’r gwrthwyneb, mae Barn wedi ei ganmol yn gyson, gan y Cyngor Llyfrau, gan Gyngor y Celfyddydau gynt, a gan archwiliad allanol Dr Tony Bianchi y llynedd. Ac eto, mae dyfodol Barn bellach, yn sydyn a chwbl ddirybudd, yn y fantol. Ai teg bod Barn yn wynebu cyfnod o ansicrwydd a allai wneud niwed hir-dymor i’r cylchgrawn, a hynny er gwaetha’r ffaith ei fod wedi ei ganmol yn gyson gan yr union gorff sydd yn awr yn bygwth ei fodolaeth? Nid ydym yn awgrymu bod neb yn haeddu derbyn arian cyhoeddus am byth heb gystadleuaeth yn ei erbyn, ac mae’n rhaid cael trefn sy’n rhoi cyfle i fentrau newydd, hyd yn oed pan fo’r cyfanswm sydd ar gael i’w rannu yn druenus o annigonol. (Ar y mater hwnnw mae pawb yn gytûn.) Ond mae’n rhaid diogelu sefydlogrwydd ac olyniaeth a datblygiad, elfennau hollbwysig ym mywyd cylchgronau.
Dewisais ganolbwyntio ar ansawdd y cylchgrawn yn y golofn hon. Fel tîm golygyddol, comisiynu a chyhoeddi cyfraniadau o’r ansawdd uchaf yw ein blaenoriaeth, fis ar ôl mis. Ond mae ffactorau eraill i’w hystyried, wrth gwrs. Mae pryderon wedi eu mynegi ynglyn â’r niferoedd sydd yn prynu Barn yn fisol. Mynegwyd yr un pryderon am gyhoeddiadau eraill. Ond fel y mae Dr Tony Bianchi yn nodi yng nghasgliadau ei adroddiad, mae’r niferoedd yn y cyd-destun Cymraeg yn cynrychioli canran lawer uwch o’r boblogaeth nag sy’n darllen cylchgronau cyfatebol yn y Saesneg. Mae’r ganran o siaradwyr Cymraeg sy’n darllen Barn bron bedair gwaith yn uwch na’r ganran o Saeson sy’n darllen y New Statesman. Diddorol yw nodi bod y Cyngor Llyfrau yn defnyddio union yr un ddadl – sef bod gwerthiant o 1000 copi o nofel Gymraeg yn cyfateb i werthiant o 100,000 o gopïau o nofel Saesneg – yn ei strategaeth bum mlynedd Gyda’n Gilydd a gyhoeddwyd ’nôl yn 2000.
Does dim dianc rhag y ffaith mai cenedl fach ydym ni – os yw hi, bellach, yn dderbyniol sôn am y Cymry Cymraeg fel cenedl ar wahân. Fel aelodau o’r genedl fach honno, gallwn gymryd un o ddau safbwynt. Y mae rhai ohonom yn dadlau ei bod hi’n bwysig cael amrywiaeth diwylliannol o fewn y genedl Gymraeg, a bod cynnal yr amrywiaeth hwnnw yn golygu – weithau – cynnal elfennau o’r diwylliant sydd â chynulleidfaoedd cymharol fychan. Mae eraill yn credu bod yn rhaid i’r diwylliant Cymraeg ddenu cynulleidfaoedd sylweddol, er mwyn dangos i’r byd mawr Saesneg fod y diwylliant hwnnw yn un gwerthfawr. Nid yw’r feddylfryd hon yn gallu gwerthfawrogi gwerth cynhenid ysgrif, neu gerdd, neu nofel sydd wedi ei llunio’n gelfydd – dim ond dilyn ffigyrau moel ar ddatganiad ariannol. Os gwir bod cymhorthdal cylchgrawn arall wedi’i docio oherwydd pryderon am werthiant a marchnata, gwelir bod hwn yn faes y mae angen ei wyntyllu’n gyhoeddus. (Ac nid yw ei wyntyllu yn awgrymu am eiliad bod lle i neb ohonom laesu dwylo yn y gwaith o geisio denu darllenwyr newydd – da medru dweud bod dros 500 o bobl yn darllen ein herthyglau ar y wefan.)
Ar ryw olwg bydd y cyfnod nesaf yn hanes hir ac anrhydeddus Barn yn un anodd. Ond mae hyn i gyd yn digwydd ar adeg arloesol a chyffrous yn ein hanes, wrth i’r cylchgrawn a’r wefan ddatblygu dan arweiniad y tîm golygyddol a gynhyrchodd y rhifyn hwn. Hyderwn y byddwch fel darllenwyr yn cytuno nad cylchgrawn y mae angen iddo giledrych yn betrus i’r dyfodol yw Barn. Rydym mewn sefyllfa gref i allu ymateb i’r her a osodwyd gan Gyngor Llyfrau Cymru, ac edrychwn ymlaen at barhau i fwydo’r meddwl Cymreig, ac at ddathlu ein penblwydd yn 50 yn 2012.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru

