Mae’n amhosib gorbrisio gwerth athrawon da. Mae’r mwyaf lwcus yn ein plith yn gallu enwi o leiaf un athro o’r fath ac yn parhau’n fythol ddiolchgar iddyn nhw am ein hysbrydoli a’n hannog. Ac mae yna rai sy’n aros yn y cof nid yn unig oherwydd eu doniau dysgu ond hefyd ar sail eu cymeriad unigryw. Un felly oedd Mr Dafydd Wyn.
Oedd, roedd ganddo dueddiadau ecsentrig ond roedd hynny’n rhan o’i lwyddiant fel athro. Yn ei angladd fis diwethaf yng Nglanaman roedd yr atgofion yn llifo. Fel y dywedodd cynifer o’i gyn-ddisgyblion, gan gynnwys sawl darlledwr amlwg ar y cyfryngau Cymraeg, ‘Fydden i ddim yn gwneud y gwaith yma oni bai am y dechreuad gawson ni gan Mr Wyn.’
Cyd-ddigwyddiad chwerwfelys oedd mai ar ddiwrnod cwrdd coffa Mr Wyn y cafodd y ffilm Mr Burton gan y cyfarwyddwr o Gaerdydd Marc Evans ei rhyddhau. Stori ydyw am ddylanwad yr athro Saesneg Philip Burton ar y bachgen ifanc Richard Jenkins o Bont-rhyd-y-fen mewn ysgol uwchradd ym Mhort Talbot.