Thema dywyll Thema golau

O Ewrop – Ms Jonesova, Merch Mrs Jones

Ond wrth i bobl symud o wlad i wlad, mae’r anghysonderau yn neddfwriaethau cofrestru babanod Ewrop wedi aros yn yr unfan. Nid yw’n bosib, ar hyn o bryd, i rieni o Sbaen a Chymru ddewis cyfenw i’w plant sy’n cydymffurfio â deddfwriaethau Cymru, Sbaen a Gwlad Belg.

Fel mewn llawer o wledydd ar y cyfandir, mae awdurdodau Gwlad Belg yn dal i roi cyfenw’r tad yn unig ar blant, os yw’r tad neu’r fam yn ddinesydd y wlad. Fel Cymro, sydd wedi dod yn ddinesydd Gwlad Belg, bydd ein hail blentyn yn cael fy nghyfenw i yn unig. Golyga hynny y bydd gan y babi newydd gyfenw hollol wahanol i’n plentyn cyntaf, a aned cyn i mi ddod yn ddinesydd Gwlad Belg.

Dan ei deddfwriaeth genedlaethol, felly, byddai awdurdodau Gwlad Belg, fel yn Ffrainc, yr Almaen, yr Iseldiroedd a llawer o wledydd eraill Ewrop, yn rhoi’r cyfenw Cymraeg, sef ab Iago, i’n plentyn. Ond oherwydd fy mod i bellach yn ddinesydd Gwlad Belg, mae’r awdurdodau yn gwrthod pob cais i roi’r cyfenw ap Dafydd i’n mab neu Dafydd i’n merch. Roedd hi’n bosib i ni ddilyn cyfraith y Deyrnas Unedig wrth enwi’n plentyn cyntaf. Er iddo gael ei eni yng Ngwlad Belg, nid oedd yn ddinesydd Gwlad Belg ar adeg ei eni, ymresyma’r awdurdodau.

Ar ben hynny, mae’r babi newydd yn debygol o gael ei gydnabod yn swyddogol dan gyfenw gwahanol yn Sbaen, ei famwlad. Bydd yr awdurdodau yno yn rhoi dau gyfenw arno neu arni, yn unol â deddfwriaeth Sbaen. Mynna Sbaen mai ab Iago Lopez yw’r unig wir gyfenw ar gyfer y plentyn gan mai Sbaenes yw ei fam. Mae rhaid inni wneud cais arbennig i newid y cyfenw anghywir hwnnw i ab Dafydd Lopez er mwyn cysoni cyfreithiau Cymru a Sbaen.

Cymhleth, dwi’n gwybod! Ymddiheuriadau. Os ydych yn y niwl o hyd, cofiwch fod cyfraith Sbaen yn gosod cyfenw cyntaf y fam ar ôl cyfenw cyntaf y tad i ffurfio’r cyfenw ar gyfer y genhedlaeth nesaf. Cyfenw mab Julio Iglesias de la Cueva yw Julio Iglesias Preysler. (Cyfenw mam Julio Iglesias yw Preysler.)

Un o rinweddau’r Undeb Ewropeaidd yw bod dinasyddion yn mwynhau hawliau yn ogystal â chyfrifoldebau. Rydym yn cael byw mewn gwledydd sydd o fewn yr Undeb heb i neb wahaniaethu yn ein herbyn ar sail ein cenedligrwydd.

Ond wrth i’r Undeb Ewropeaidd ymestyn, mae’r broblem o sut i gysoni deddfwriaethau gwahanol ynglyn â chyfenwau wedi cynyddu. Byddai merch Roman Polanski, yng Ngwlad Pwyl, yn cael y cyfenw Polanska, er bod brawd iddi â’r cyfenw Polanski. Mae deddf Gwlad Pwyl yn mynnu arddel ffurf fenywaidd, drwy ychwanegu ‘a’, at gyfenwau menywod.

Mae problem arall yn wynebu Cymry yng Ngwlad Tsiec. Ar dystysgrif geni ei merch, byddai Mrs Jones o Gymru, er enghraifft, os ydy hi wedi priodi dyn o’r wlad honno, yn synnu gweld y cyfenw Jonesova ar dystysgrif geni ei merch. A hynny hyd yn oed os oes gan y plentyn basbort Prydeinig ag arno’r cyfenw Jones.

Mae Llys Cyfiawnder Ewrop wedi amlinellu eisoes pa mor ddryslyd a pheryglus yw sefyllfa o’r fath. Yn y byd terfysgol sydd ohoni, mae’n rhaid gallu profi pwy ydym. Ond hyd nes y cysonir cyfenwau fydd hynny ddim yn bosib, mewn gwirionedd.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Camu ’Mlaen: Adfywio Plaid Cymru. Go brin!

Ymlaen >

Cwrs y Byd: Ffiniau Nid Cyffiniau