Ers dau gan mlynedd mae Pedr Ddu wedi bod yn helpu Siôn Corn yn yr Iseldiroedd a Fflandrys i ddosbarthu anrhegion Nadolig. Ers talwm roedd Siôn Corn yn smalio trin Pedr Ddu fel twpsyn neu ddiniweityn ac roedd y plant yn cael eu hannog i wneud sbort am ben y bachgen du. Roedd hynny’n adlais hyll o’r dyddiau pan oedd y fasnach mewn caethweision rhwng yr Iseldiroedd a’r Caribî yn hanner miliwn o eneidiau, fe amcangyfrifir. Dywedir i 75,000 o’r caethweision farw wrth gael eu trawsgludo.
Ond wrth i werthoedd cymdeithas newid – hyd yn oed cyn dyfodiad cywirdeb gwleidyddol – dechreuodd pobl anesmwytho. Onid oedd Pedr Ddu yn hiliol, braidd? Rhoddwyd y gorau i’w gam-drin a dechreuwyd synio amdano fel rhan allweddol o gadwyn ddosbarthu fyd-eang Mr Corn. Ond efe, Corn, y dyn efo’r wyneb gwyn a’r farf wen, oedd y Meistr o hyd. Doedd dim amheuaeth ynglyn â hynny. Ato fo y byddai’r plant yn sgwennu. Fo fyddai’n cael y clod am wireddu eu breuddwydion. Ond er bod Pedr Ddu’n cael mwy o barch erbyn hynny, roedd elfennau amwys o hyd yn y modd yr oedd o’n cael ei bortreadu. A ellid bod yn hollol sicr – hynny ydi, yn 100% sicr, y tu hwnt i unrhyw amheuaeth – mai gwas Siôn Corn oedd Pedr bellach ac nid ei gaethwas fel o’r blaen?
Eleni, mae’r cwestiynu wedi bod yn daerach. Anfonwyd llythyr o swyddfa’r Cenhedloedd Unedig yn awgrymu y gallai nodweddion a delwedd Pedr Ddu gael eu hystyried yn hiliol. Meddai Comisiwn y CU, mewn neges at Brif Weinidog yr Iseldiroedd, Mark Rutte: ‘Mae o’n pedlera delwedd ystrydebol o bobl Affrica, a phobl o dras Affricanaidd, fel dinasyddion eilradd’.
Ond mae Rutte, Carwyn y camlesi a’r tiwlips, o’r farn bod yr Iseldiroedd a Fflandrys yn cael bai ar gam. Yn ôl Rutte mae Pedr Ddu yn ddu oherwydd ei fod o’n gorfod mynd i lawr simneiau efo presantau i’r plant. (Simneiau y mae Siôn Corn ei hun yn rhy hen ac yn rhy dew i stryffaglo trwyddynt.) Digon teg, meddech chi. Hollol resymol.
Ond... pam, felly, nad oes parddu ar ddillad Pedr? Pam mai dim ond croen Pedr sy’n ddu? A pham ei fod o’n siarad ag acen y Caribî? A beth am y gwallt gosod affro ’na?
H’mmm...
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
